Cronfa £1m i annog ysgolion i ddatblygu cerddorion ifanc

  • Cyhoeddwyd
Pupil at Woodlands Primary School, Cwmbran

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n sefydlu cronfa newydd gwerth £1m er mwyn annog plant i ddod yn gerddorion.

Gobaith gweinidogion yw y bydd cyrff yn y sector breifat a'r sector gyhoeddus yn cyfrannu i'r gronfa, sy'n gobeithio gwneud taliadau i gefnogi Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth.

Mae'r £1m yn cael ei roi i Gyngor Celfyddydau Cymru, y corff sy'n gyfrifol am lansio'r gronfa.

Dywedodd Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg: "Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dangos i bobl yn y sector gyhoeddus a'r sector breifat ein bod o ddifri' ynglŷn â hyn, a byddan nhw hefyd felly am gyfrannu i'r Gwaddol," meddai.

"Pe bai hyn yn digwydd yna rydym yn gobeithio gwneud y taliadau cyntaf o'r gwaddol yn 2020."

Cwricwlwm ehangach

Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng Ms Williams a Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

Dywedodd Jaci Bates, pennaeth Ysgol Gynradd Woodlands yng Nghwmbrân fod plant yn cael budd mawr o chwarae offeryn cerddorol.

"Mae yna gymaint o ganolbwyntio ar lythrennedd a rhifyddeg fel ein bod ni mewn peryg o gyfyngu'r cwricwlwm ac anghofio buddiannau sy'n gallu dod o gael cwricwlwm ehangach," meddai.

Ers 2008 mae'r rhan fwyaf o gynghorau Cymru wedi torri cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth, wrth i feysydd fel gofal cymdeithasol gael blaenoriaeth.

Y llynedd fe wnaeth Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru gofnodi'r nifer isaf erioed o bobl ifanc oedd yn gwneud cais i ymaelodi.

Fis diwethaf fe wnaeth yr arweinydd cerddorol a sylfaenydd y Proms Cymreig, Owain Arwel Hughes, rybuddio pwyllgor o aelodau'r Cynulliad na fydd Cymru'n parhau'n genedl gerddorol os "nad yw'r argyfwng ariannu gwersi cerdd mewn ysgolion yn cael ei ddatrys".

Kirsty Williams at Woodlands Primary School
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams yn gobeitho y bydd y Gwaddol Cenedlaethol yn gwneud ei daliadau cyntaf yn 2020

Dywedodd Mr Hughes wrth ACau nad mater o chwarae cerdd er mwyn mwynhau'n unig neu er mwyn gyrfa oedd yn bwysig, ond dywedodd ei fod yn hanfodol i ddatblygiad plant ac ni ddylai fod yn ddibynnol ar deuluoedd yn gallu fforddio talu am wersi ac offerynnau.

"Fe ddylai pawb gael yr un cyfle, heb amheuaeth o gwbl," meddai.

Dywedodd Phil George, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mewn cyfnod heriol fel hyn mae gofyn am weithredu positif.

"Mae'n bwysicach nag erioed i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc," meddai.

"Mae'r gronfa newydd yn wahoddiad i bobl yn y sectorau cyhoeddus a'r sector breifat i ymuno â Llywodraeth Cymru i feithrin talent cerddorol ifanc."