Llywodraeth wedi 'rhoi'r gorau' i drafod ffoaduriaid ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd cyngor wedi dweud fod llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i gynnal trafodaethau ar ail-gartrefu ffoaduriaid ifanc yng Nghymru.
Dywed arweinydd cyngor Torfaen, Anthony Hunt , ei fod ef a'i gydweithwyr yn barod i gydweithio gyda'r Swyddfa Gartref "petai'r arian yno".
Daw hyn wedi i'r Ysgrifennydd Cartref gau'r hyn sy'n cael ei adnabod fel gwelliant Dubs unwaith mae 350 o blant o Ewrop sydd ar ffo a heb gymorth oedolion yn cyrraedd y DU.
Dywed y Swyddfa Gartref nad oedd yn "rhoi'r gorau" i gefnogi plant bregus.
Deddfwriaeth
Mae'r ddeddfwriaeth, sydd wedi ei enwi ar ôl yr Arglwydd Dubs, ddaeth i Brydain fel plentyn amddifad, yn nodi fod yn rhaid i'r llywodraeth ail-gartrefu nifer o blant o Ewrop sydd ar eu pen eu hunain yma ym Mhrydain.
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru nad oedd yn ymwybodol o gynlluniau llywodraeth y DU i gau'r cynllun ac roedd trafodaethau am gapasiti ychwanegol yn parhau.
Dim ond plant sydd ar eu pen eu hunain yn Ewrop ac sydd heb gysylltiad gyda Phrydain sydd yn rhan o'r ddeddfwriaeth benodol yma. Mae cynlluniau eraill yn bodoli i ail-gartrefu plant o wledydd eraill sydd wedi dioddef effaith rhyfeloedd.
Dywedodd rhai cyngorau wrth BBC Cymru nad oeddynt wedi derbyn dim o'r plant hyn i'w hail-gartrefu hyd yn hyn ac nid oedd ganddyn nhw'r gallu i wneud hynny.
Dywedodd Mr Hunt: "Rydym wedi bod yn cydweithio gydag awdurdodau eraill Gwent ar hyn, ac felly mae na nifer rwy'n gredu y byddai Gwent yn fodlon ei dderbyn fel cyfanswm, ond dydyn ni heb gyrraedd ffigwr pendant o ran beth yw'r capasiti.
"Os yw'r arian a'r gefnogaeth yno ac o gofio fod y niferoedd yn fach iawn, rwy'n credu y gallwn wneud ein rhan a chydweithio'n adeiladol gyda'r Swyddfa Gartref i gyflawni hynny.
"Dyma pam ei fod yn siomedig ein bod yn darganfod y newyddion fod y llywodraeth i'w weld wedi rhoi'r gorau ar y sefyllfa."
'Gweithio'n agos'
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth drafod sut oedd modd datblygu camau yng Nghymru tuag at gefnogi plant bregus oedd yn cyrraedd a'u gwreiddio mewn cymunedau."
Ychwanegodd llefarydd o'r Swyddfa Gartref: "Mae gennym hanes balch o gynnig lloches i'r rhai sydd ei angen ac fe fydd plant yn parhau i gyrraedd y DU o bedwar ban byd drwy ein cynlluniau ail-gartrefu eraill a'r system lloches.
"Rydym hefyd yn bendant mai plant sydd tu ôl i'r ffigyrau hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cael y cydbwysedd yn iawn rhwng galluogi plant i ddod i'r DU mor gyflym â phosib a sicrhau fod gan awdurdodau lleol y capasiti i'w cynnal a chynnig y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw."