Colli gwallt, colli hyder?

  • Cyhoeddwyd
Als Jones
Disgrifiad o’r llun,

Als Jones cyn (chwith) ac ar ôl y driniaeth

Mae'n un o'r pethau mae rhai dynion yn ei ofni'n fwy na dim wrth fynd yn hŷn - colli gwallt. Mae llawer yn teimlo mai'r unig ffordd o'i chwmpas ydy cael triniaeth.

Dyna wnaeth yr actor James Nesbitt sydd wedi bod yn agored iawn yr wythnos hon am ei benderfyniad i gael trawsblaniad gwallt.

Roedd Als Jones, sy'n 30 oed ac yn dod o Lanfairpwll, hefyd yn anhapus byth ers iddo ddechrau colli ei wallt yn 21.

Ac roedd hynny'n ergyd i'w hunan-hyder - yn enwedig ar ôl iddo weithio mor galed i golli hyd at naw stôn mewn pwysau yn y cyfnod hwnnw.

"Dros y blynyddoedd oedd o'n boen meddwl arna fi," meddai Als Jones ar raglen Al Hughes BBC Radio Cymru.

"O'n i'n meddwl be' ma' pobl yn feddwl o'na fi. Do'n i ddim yn hapus efo'r ffordd o'n i'n edrych.

"Am flynyddoedd - pan nesh i ddechra' sylwi [ei fod yn colli ei wallt] - nesh i ddechra' lliwio fo'n ddu. 'Nath o rili ga'l fi lawr. Allan o bob dim, pam dwi'n gorfod colli 'ngwallt?

Disgrifiad,

Al Hughes ac Als Jones yn trafod mynd yn foel

'Lot o ymchwil'

Ond un diwrnod fe sylwodd ar neges ar wefan Facebook gan ffrind oedd wedi bod yn cael triniaeth yn Istanbul yn Nhwrci.

"Nesh i neud ymholiada' wedyn a siarad efo fo - gesh i lot o wybodaeth ganddo fo," meddai Als. "Nesh i lot o ymchwil cyn neud y dewis i fynd, felly 'nath hynna helpu lot.

"O'n i wedi ei roid o dan carpad a meddwl 'ma'n mynd i gostio gormod' tan i fi ffeindio allan am Istanbul. Dwi heb sbio 'nôl ers hynna."

Fe deithiodd i Ddwyrain Ewrop ychydig dros flwyddyn yn ôl gyda £1,500 o arian parod yn ei fag, cyn cael 12 awr o driniaeth.

"Maen nhw'n tynnu y follicles - y rhai sydd efo darn gwyn ar y gwaelodion - o'r cefn ar ochra' ac yn plannu hwnna ar y top a ma' hwnna'n tyfu fel root wedyn," eglurai Als, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor.

Disgrifiad o’r llun,

Als cyn cael y trawsblaniad

"Mae 'na gene hollol wahanol i top dy ben di ac y cefn.

"Nesh i ddim cysgu trwy'r driniaeth - jysd anaesthetic. Oedd o'n anghyfforddus - ond mae o wedi bod werth o."

Rhywioldeb

Mae Als yn dweud ei fod yn 'nabod hyd at chwech person sydd wedi cael triniaeth tebyg ond sy'n anfodlon siarad yn agored am y peth.

Er eu bod wedi cyfaddef hynny wrth Als dydyn nhw ddim eisiau dweud yn gyhoeddus am eu bod yn meddwl ei fod yn dweud rhywbeth am eu rhywioldeb.

"Dwi'n hoyw a dwi ddim yn meddwl ei fod o'n ddim byd i neud efo rhywioldeb," meddai Als. "I fi'n bersonol, o'n i jysd isio llond pen o wallt!"

Fel rhywun oedd wedi teimlo'n isel oherwydd ei wallt - neu'r prinder ohono - mae Als bellach yn llawer hapusach.

"Dwi'n teimlo fel person hollol wahanol - sy'n ardderchog," meddai. "Ma'n teimlo'n anhygoel i sbio'n y drych yn y bora a ca'l llond pen o wallt."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor James Nesbitt yn 2005 ac yn 2016: Yr wythnos hon fe ddywedodd Nesbitt ei fod yn teimlo ei fod wedi cael mwy o waith actio ar ôl gwario £20,000 ar drawsblaniad gwallt