Cyhoeddi cymorth gwerth £10m i fusnesau'r stryd fawr

  • Cyhoeddwyd
Stryd

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi manylion cynllun gwerth £10m sydd wedi ei anelu at gynnig cymorth ariannol ar gyfer busnesau'r stryd fawr o fis Ebrill ymlaen.

Bydd y cynllun yn cefnogi bron i 15,000 o siopau, bwytai, tafarnau a chaffis meddai Llywodraeth Cymru.

Y bwriad yw cynnwys busnesau sydd wedi gweld cynnydd yn eu cyfraddau busnes o ganlyniad i'r ailbrisiad gan Asiantaeth Annibynnol y Swyddfa Brisio, fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill.

Cyfraddau busnes ydy'r dreth mae cwmnïau yn ei dalu am eu hadeiladau, ac mae yna bryderon y bydd y cynnydd o achos ailbrisio yn gwneud bywyd yn anodd i rai - gyda rhai busnesau yn credu y byddan nhw'n mynd i'r wal.

Bydd cwmnïau sy'n gymwys i gael yr arian yn derbyn hyd at £1,500 tuag at eu cyfraddau - a bydd angen iddyn nhw gysylltu gyda'u cynghorau lleol i weld os ydy'r cymorth ar gael iddyn nhw.

'Pryder'

Wrth gyhoeddi'r manylion, dywedodd yr Athro Drakeford: "Mae rhai manwerthwyr ledled Cymru yn pryderu am y cynnydd yn eu hardrethi o ganlyniad i'r ailbrisiad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

"Rydym felly'n darparu swm pellach o £10m i helpu busnesau yn y cymunedau hynny y cafwyd effaith andwyol arnynt.

"Mae'r cynllun newydd hwn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10m, a fydd ar gael hefyd o 1 Ebrill, a'r toriad o £100m mewn trethi ar gyfer busnesau bach yng Nghymru a ddarperir gan ryddhad ardrethi busnes bach.

"Mae gwaith eisoes ar y gweill i ddatblygu cynllun rhyddhad ardrethi parhaol ar gyfer busnesau bach newydd ar gyfer 2018. Rydym yn gwrando ar yr adborth yr ydym wedi'i gael er mwyn i ni wneud y cynllun mor deg, rhesymol a thryloyw â phosib."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford mewn ymateb i ailbrisio fydd yn effeithio ar fusnesau o 1 Ebrill

Mae'r gronfa yn rhan o'r fargen rhwng Llafur a Phlaid Cymru a chafodd ei chyhoeddi cyn y Nadolig.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price fod ei blaid yn falch o allu "cynnig y £10m ychwanegol yma i gefnogi busnesau sydd wedi eu heffeithio gan yr ailbrisio diweddar mewn cyfraddau busnes, fel rhan o'r cytundeb diweddar ar y gyllideb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru".

"Ond rhaid i Lywodraeth Llafur Cymru anrhydeddu'r addewid a wnaeth yn ystod etholiad y Cynulliad Cenedlaethol a delifro cynllun rhyddhad cyfraddau busnes tecach yng Nghymru sy'n gorfod cynnwys asesiadau ailbrisio mwy cyson," meddai.

'Cwestiynau'n parhau'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod cwestiynau'n parhau dros bwy fydd yn gymwys i dderbyn yr arian.

Dywedodd Nick Ramsay AC: "Tra rydym yn croesawu'r arian ychwanegol mae cwestiynau'n parhau dros bwy sy'n gymwys i'w dderbyn a'r hyn sy'n cael ei ddiffinio fel 'Stryd Fawr', ac mae'n bell o fod yn eglur fod yr arian yma'n cael ei dargedu tuag at fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan yr ailbrisiad diweddar.

"Rhaid i'r cynlluniau hyn fod mewn lle ymhen wythnosau, sy'n rhoi pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol.

"Dyma pam fod ymateb poenus o ara' deg Llafur i'r ailbrisio wedi bod mor siomedig, gan ychwanegu at y poen meddwl sy'n cael ei deimlo gan y rhai sydd wedi eu heffeithio fwyaf."

Ychwanegodd fod angen trafodaeth sylfaenol am y math o gynllun sydd ei angen yn y dyfodol.