Ystyried diddymu hawl tenantiaid i brynu eu tai

  • Cyhoeddwyd
Tai

Gallai hawliau tenantiaid i brynu eu tai cyngor ei hunain gael ei ddiddymu petai mesur arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn dod i rym.

Cyngor Caerdydd yw'r diweddaraf o gynghorau Cymru i atal tenantiaid rhag cael yr hawl i brynu, a hynny am bum mlynedd, yn dilyn penderfyniad gan yr awdurdod ddydd Iau.

Mae'r gwaharddiad yng Nghaerdydd yn ymdrech i fynd i'r afael ag anghenion tai yn y brifddinas.

Bydd gweinidogion y llywodraeth yn argymell creu cyfraith newydd i Gymru gyfan fyddai'n gwahardd yr hawl i brynu, ac fe fydd y cais yn cael ei wneud fis nesaf.

Mae Llafur Cymru wedi dweud yn y gorffennol mai'r bwriad oedd amddiffyn stoc tai.

Tenantiaid

Ar hyn o bryd mae gan y mwyafrif o denantiaid cartrefi cymdeithasol yr hawl i brynu eu heiddo ar ôl byw yno am bum mlynedd, gan dderbyn gostyngiad o £8,000 ar werth yr eiddo.

Y llynedd cafodd 359 eiddo yng Nghymru eu prynu o dan y cynllun, a hynny allan o 200,000 eiddo yn y sector tai cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Margarate Thatcher gydag un o'r teuluoedd cyntaf i brynu eu tŷ eu hunain o dan y drefn hawl i brynu

Ddydd Iau fe wnaeth cabinet Cyngor Caerdydd gymeradwyo cynlluniau i ddiddymu'r cynllun am bum mlynedd - cynllun oedd ymysg rhai o bolisïau mwyaf blaenllaw Margaret Thatcher.

Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi sêl bendith ar benderfyniad Cyngor Caerdydd cyn iddo ddod yn weithredol.

Mae cynghorau Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe wedi dod â'r polisi i ben, tra bod cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi cyflwyno eu cynlluniau i weinidogion.