Angen codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr prin Syndrom Williams
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe yn rhybuddio y gallai diffyg ymwybyddiaeth o gyflwr genetig prin sy'n achosi i blant fod yn or-gyfeillgar arwain at fywydau ynysig fel oedolion.
Mae Syndrom Williams yn gyflwr genetig prin sy'n achosi oedi yn natblygiad plant ac yn achosi anawsterau wrth symud, yn ogystal â phroblemau gyda'r galon.
Elfen arall o'r syndrom yw'r ffaith bod y rheiny sydd â'r cyflwr yn dueddol o fod yn blant cyfeillgar sy'n hoffi cymdeithasu. Mae rhai yn disgrifio'r cyflwr fel gwrthwyneb i awtistiaeth.
Cafodd y cyflwr ei gydnabod am y tro cyntaf yn 1961 ac mae'n effeithio tua 300-400 o bobl yng Nghymru.
Mae arbenigwyr yn dweud bod angen mwy o sylw i'r cyflwr er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau addysg, iechyd a chymdeithasol yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Phil Reed o Brifysgol Abertawe: "Byddai ychydig o arian cyhoeddus yn mynd yn bell iawn.
"Mae'r byd yn lle cyfeillgar iawn i'r bobl yma. Gallai eu diffyg dealltwriaeth o emosiwn pobl eraill arwain atyn nhw i deimlo'n ofnus ac yn unig.
'Mwy o adnoddau'
Mae Angharad Rowlands o Frithdir ger Dolgellau yn rhiant sydd wedi mynd drwy brofiadau tebyg. Cafodd ei mab Iago, tri, ei eni gyda Syndrom Williams.
Gobaith rhieni Iago yw na fydd yn teimlo'n unig fel oedolyn gan ei fod gyda natur gyfeillgar tuag at bobl.
"Os bysai mwy o adnoddau fel sesiynau therapi galwedigaethol, sesiynau ffisiotherapi, sesiynau therapi lleferydd ac iaith mi fase'n help mawr i achos rhywun fel Iago," meddai Ms Rowlands.
Fe gafodd teulu Harrison Evans o Gaerffili wybod fod ganddo Syndrom Williams pan oedd yn flwydd oed. Mae'r cyflwr yn golygu nad oes ganddo'r hormon cysgu arferol, felly mae'n deffro pob nos fesul dwy awr.
Mae ei rieni, Sarah a Scott, yn cytuno y dylai fod mwy o gefnogaeth ar gael.
"Tydi hi ddim yn wych, mae wedi cymryd amser hir i ni dderbyn yr help sydd ei angen ar Harrison," meddai Sarah.
"Mae'n anodd oherwydd dim ond un o bob pum meddyg teulu sy'n gyfarwydd â'r cyflwr."
'Dim gwahaniaethu'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i ddarparwyr gwasanaethau iechyd a chymdeithasol gefnogi pobl ledled Cymru, waeth beth yw eu cyflwr penodol neu anghenion unigol.
"Ein nod yw cael cymdeithas yng Nghymru lle nad oes gwahaniaethu neu stigmateiddio unrhyw unigolyn neu grŵp," meddai.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod hefyd am "wella dyheadau'r rhai hynny sydd angen cymorth ychwanegol" o fewn y system addysg.