Trawsnewid hen gapel yn Y Borth yn sinema

  • Cyhoeddwyd
Peter Fleming a'i bartner Grug Morris yn edrych ymlaen at y fenter newydd yn nhre glan môr Y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Peter Fleming a'i bartner Grug Morris yn edrych ymlaen at y fenter newydd yn nhre glan môr Y Borth

Dewch i 'bictiwrs bach y Borth' fydd cân perchnogion newydd sinema boutique go arbennig fydd yn agor ei drysau ddiwedd mis Mawrth mewn hen gapel yn Y Borth ger Aberystwyth.

Eleni mi fyddai capel Y Gerlan wedi dathlu ei ben blwydd yn 140. Cafodd y capel ei brynu gan Paul Fleming a'i bartner Grug Morris yn 2014.

Ers iddo gau bum mlynedd yn ôl mae'r capel wedi bod yn wag, ond ar ei newydd wedd mi fydd yn cynnwys sinema, theatr a lle bwyta.

Fe gafodd y perchennog Peter Fleming y syniad wedi iddo fyw yn Brisbane yn Awstralia am gyfnod.

"Dwi wedi anghofio beth oedd y ffilm ond mae'r profiad o weld ffilm mewn amgylchedd moethus wedi aros gyda fi," meddai Peter.

Disgrifiad o’r llun,

Byw yn Awstralia fu'r ysbyrdoliaeth i Peter Fleming

Disgrifiad o’r llun,

Capel Gerlan, Y Borth yn agor ar ei newydd wedd ddiwedd Mawrth

Er bod sinemâu boutique wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar mae Mr Fleming yn cydnabod fod y fenter yn gryn gambl mewn tre glan môr.

Ond meddai: "Ry'n yn credu fod gennym gefnogaeth y gymuned leol - mae'r cyfan wedi bod yn dipyn o fuddsoddiad i fi a Grug.

"Hyd yn hyn ry'n ni wedi buddsoddi dros hanner miliwn o bunnau. Ry'n ni'n cymryd y prosiect o ddifrif ac ry'n ni wedi mentro'r cyfan."

Dydyn nhw ddim yn gwybod eto pa ffilm fydd yn cael ei dangos gyntaf, ond bydd y perchnogion yn rhoi'r dewis i'r cyhoedd.

Yn y cyfamser mae'r ddau berchennog newydd wrthi'n trefnu'r gwaith munud olaf ar gyfer agor Theatr Y Libanus 1877. Mae disgwyl iddi agor ei drysau ddiwedd mis Mawrth.