Cynllun i wella'r M4 'ddim wedi'i lunio'n dda'
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi rhybuddio na ddylai'r llywodraeth wario £1.1bn ar wella'r M4 ger Casnewydd.
Bydd ymchwiliad cyhoeddus i'r prosiect yn dechrau'r wythnos nesaf, ond dywedodd Sophie Howe nad oedd y cynllun "wedi'i lunio'n dda".
Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu'r ffordd liniaru newydd er mwyn lleihau tagfeydd ar yr M4 ger twneli Bryn-glas.
Byddai rhan fawr o'r gost yn dod o bwerau benthyg newydd y llywodraeth.
'Elwa un rhan o Gymru'
Dan ddeddf gafodd ei phasio ddwy flynedd yn ôl, mae gan Ms Howe ddyletswydd i gynghori gweinidogion Cymru ynglŷn ag a yw polisïau a phrosiectau'r llywodraeth yn cynnig y fargen orau i genedlaethau'r dyfodol.
Yn ei thystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus dywedodd nad oedd hi'n syniad da defnyddio pwerau benthyca Llywodraeth Cymru i ariannu "un cynllun fydd, ar ei orau, yn golygu buddion daearyddol, economaidd a chymdeithasol anghymesur i un rhan o Gymru".
"Adeiladu ffyrdd yw beth 'dyn ni wedi bod yn ei wneud ers 50 mlynedd, ac nid dyna'r ateb ddylen ni fod yn chwilio amdano ar gyfer 2017 a thu hwnt," meddai.
Ychwanegodd y dylai'r ddyletswydd gyfreithiol i ystyried yr effaith ar genedlaethau'r dyfodol olygu bod y llywodraeth yn "ystyried ffyrdd eraill o ddatrys y broblem".