100 diwrnod tan gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr

  • Cyhoeddwyd
BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid

Dim ond 100 diwrnod sydd tan gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yw'r digwyddiad chwaraeon blynyddol sy'n cael ei wylio fwyaf, ac mae'n debyg mai hwn fydd un o'r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i'w gynnal yng Nghymru erioed.

Wrth i'r 16 tîm sydd ar ôl yn y gystadleuaeth frwydro i gyrraedd y rownd derfynol ar Fehefin 3ydd, mae'r trefniadau ar gyfer y digwyddiad eisoes ar y gweill.

Dywed Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae digwyddiad o'r maint hwn yn cynnig y cyfle i'r gêm dyfu yma yng Nghymru, a gadael effaith bositif hirdymor ar bêl-droed Cymru.

"Dangosodd Euro 2016 i nifer dros Ewrop bod Cymru yn wlad bêl-droed balch a llwyddiannus, a bydd cynnal Gêm Derfynol UCL flwyddyn yn ddiweddarach yn rhoi Cymru ar y map unwaith eto.

"Wrth i lygaid y byd ffocysu ar Gaerdydd, mae'n hynod bwysig ein bod yn sicrhau bod pawb yma yng Nghymru yn cael y cyfle i deimlo'n rhan o'r digwyddiad gwych yma."

Profiad 'bythgofiadwy'

Ychwanegodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru bod cynnal digwyddiad o'r fath yn anrhydedd anferth: "Rydw i'n edrych ymlaen at groesawu pobl o dros y byd i Gymru ddechrau Mehefin.

"Mae gan Gymru brofiad llwyddiannus o gynnal digwyddiadau mawr ac rydw i'n hyderus y byddwn yn wynebu'r sialens unwaith eto a'n cynnig profiad gwych a bythgofiadwy i'r miloedd o gefnogwyr pêl-droed a fydd yn ymweld â'n prifddinas."

I'r bobl leol sy'n chwilio am flas o brofiad gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, bydd Gŵyl y Pencampwyr yn cael ei chynnal yn ardal Bae Caerdydd er mwyn i bawb gael profi'r awyrgylch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Cynghorydd Phil Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Caerdydd nawr wedi ei sefydlu'n gadarn ar y llwyfan rhyngwladol fel man i gynnal digwyddiadau mawr ac rydym yn falch iawn o allu cynnal gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yma.

"Bydd y buddion economaidd yn fawr iawn - mae'r disgwyl oddeutu £45m. Rydym yn edrych ymlaen at roi croeso cynnes i gystadleuwyr y gemau terfynol wrth iddynt gyrraedd prifddinas Cymru."

Mae'r gystadleuaeth bellach wedi cyrraedd hanner ffordd yn rownd yr 16 olaf. Erbyn Mawrth 15fed, dim ond wyth tîm fydd ar ôl, gyda'r gemau gogynderfynol a'r gemau cynderfynol yn cael eu cynnal yn ystod misoedd Ebrill a Mai.