Daily Post yw papur mwyaf poblogaidd Cymru

  • Cyhoeddwyd
cylchrediad

Y Daily Post yw'r papur newydd sy'n gwerthu fwyaf o gopïau yng Nghymru bellach, er bod dirywiad yn y sector print yn parhau.

Mae ffigyrau ar gyfer 2016 yn dangos bod y papur, sy'n cael ei ddarllen gan bobl dros ogledd Cymru, yn gwerthu 22,251 o gopïau ar gyfartaledd.

Mae hynny'n is na'r 23,645 oedd yn cael eu gwerthu yn 2015.

Erbyn hyn mae cylchrediad y Daily Post yn uwch na phapur Abertawe, y South Wales Evening Post, oedd â chylchrediad o 21,031 yn 2016 a chwymp yn nifer y defnyddwyr arlein.

Cynnydd arlein

Roedd cynnydd yn y nifer yn mynd i wefannau y rhan fwyaf o bapurau eraill, sy'n dal i gael trafferth creu incwm o hynny wrth i'r arian ddaw o werthu copïau caled leihau.

Fe wnaeth cynulleidfa WalesOnline gynyddu 13.1% i 292,824 o ddefnyddwyr unigryw bob dydd ar gyfartaledd.

Roedd cynnydd o 5.1% hefyd i wefan y Daily Post, sy'n gweld 81,125 o ddefnyddwyr unigryw bob dydd.

Fe wnaeth cylchrediad y South Wales Echo gyrraedd 15,140 yn 2016 o'i gymharu â 17,820 yn 2015.

10,808 oedd cylchrediad papur Casnewydd, y South Wales Argus, cwymp o'r 11,475 yn 2015.

Ac fe wnaeth Wales on Sunday hefyd golli darllenwyr, gan gyrraedd 11,609 y llynedd, o'i gymharu â 14,314 y flwyddyn cynt.