Cythruddo'r Cymry
- Cyhoeddwyd
Welsoch chi'r drafodaeth am y Gymraeg ar raglen newyddion 'Newsnight' y BBC ar nos Fercher 9 Awst?
Mae tîm cynhyrchu y rhaglen wedi cael eu beirniadu'n hallt ar y cyfryngau cymdeithasol am y modd yr aethon nhw ati i ddewis panelwyr i drafod argymhelliad Llywodraeth Cymru i greu comisiwn i hyrwyddo a gwarchod buddiannau'r iaith Gymraeg.
Doedd 'run o'r panelwyr yn gallu siarad Cymraeg.
Dyma i chi 'chydig o flas mwy cymhedrol yr ymateb:
Nid dyma'r tro cyntaf i newyddiadurwyr a cholofnwyr blaenllaw ddangos eu hanwybodaeth gan godi gwrychyn y Cymry.
Dyma i chi olwg ar rai o'r pechaduriaid mwyaf:
AA Gill
Roedd gan y diweddar golofnydd draddodiad hir o wneud sylwadau gwrth-Gymreig yn The Sunday Times.
Yn 2005 cafodd cwyn swyddogol amdano ei hanfon at Gomisiwn Cwynion y Wasg a'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol wedi iddo awgrymu yn un o'i golofnau bod y Cymry yn gelwyddgwn di-egwyddor:
"Wales enjoys a panoramic range of prejudice. We all know they are loquacious dissemblers, immoral liars, stunted, bigoted, dark, ugly, pugnacious little trolls."
Mewn erthygl arall dymunodd Nadolig Llawen "i bawb, ar wahân i'r Cymry wrth gwrs".
Tybed be wnaethon ni i'w ypsetio fo?
Anne Robinson
Wrth ymddangos ar raglen deledu Room 101 yn 2001 fe geisiodd y cyflwynydd pengoch ddadlau dros roi'r Cymry yno.
"Beth yw eu pwynt nhw?" gofynnodd. "Maen nhw'n rhy fodlon efo'u hunain." Dywedodd bod ei hatgasedd wedi ffurfio tra'n ferch fach yn Lerpwl a chlywed yr iaith yn cael ei siarad ymhlith Cymry'r ddinas.
Wedi llwyth o gwynion fe ddaeth ymddiheuriad. Yn ddiweddarach fe gymrodd hi ran mewn ymgyrch gan Fwrdd Croeso Cymru i ddenu rhagor o ymwelwyr yma.
Toby Young
Roedd yr awdur a cholofnydd The Specator yn aros ar Ynys Môn yn 2004 pan dderbyniodd wahoddiad i gyfrannu i raglen Broadcasting House BBC Radio 4 i drafod ei lyfr newydd. Roedd hynny yn golygu y byddai'n rhaid iddo deithio i'r stiwdio agosaf ym Mangor.
Roedd o i fod i gyrraedd am 08:30 ond gyda phum munud i fynd doedd o ddim wedi llwyddo i ffeindio Bryn Meirion felly mi ffoniodd y stiwdio gan egluro:
"I'm not sure I'm even in Bango. I'm looking at a road sign that says 'Gorsaf Station'. I think I must be in a town called Gorsaf."
Wedi iddo gael ei gywiro aeth y newyddiadurwr ar y rhaglen a sôn am y gamddealltwriaeth gan awgrymu ei bod hi'n hurt bod yn rhaid i arwyddion ffyrdd fod yn ddwyieithog.
Pan ddaeth o'r stiwdio roedd yna ddyn blin iawn yn ei ddisgwyl yn y dderbynfa, ac am dri chwarter awr fe gafodd ei roi yn ei le am y Gymraeg.
'Dyn ni ddim yn credu iddo fo werthu llawer iawn o gopïau o'i lyfr yng Nghymru yr wythnos honno.
Roger Lewis
Fe sgwennodd yr awdur gofiant i'r digrifwr Peter Sellers ond fe fethodd nifer o Gymry a gweld dim yn ddoniol yn ei sylwadau am yr iaith Gymraeg yn 2011.
Wrth adolygu cyfrol Jasper Rees Bred of Heaven yn y Daily Mail, disgrifiodd y Gymraeg fel iaith mwnci. Er ei fod o'i hun wedi ei eni yng Nghaerffili mynnodd bod yr iaith yn cael ei gwthio ar bobl am resymau gwleiddyol. Mi wnaeth o hefyd ddisgrifio Gorsedd y Beirdd fel "Klu Klux Klan mewn wellingtons gwyn".
Fe aeth Aelod Seneddol Plaid Cymru Jonathan Edwards at yr heddlu i gwyno am y sylwadau "annerbyniol".
Janet Street-Porter
Er bod ei Mam yn siarad y Gymraeg yn rhugl, dyw ei merch ddim mor falch o'i thras Cymreig. Yn 2001 mi ymosododd ar yr iaith gan ddweud ei bod yn cael ei chadw'n fyw gan "bwyllgorau yn dyfeisio geiriau newydd am y car a'r set deledu".
Ddwy flynedd yn ddiweddarach mi gododd nyth cacwn arall trwy ddisgrifio'r Cymry fel pobl 'anghyfeillgar' gan honni ei bod wedi cael ei gwneud i deimlo'n estron yn ystod ei phlentyndod ar ei gwyliau yn Llanfairfechan.
Pan ddaeth hi nôl i Gymru i olrhain ei gwreiddiau yn y rhaglen Coming Home, mae'n debyg fod y cynhyrchwyr wedi cael trafferth yn ceisio perswadio pobl oedd yn ei nabod i gymryd rhan.
Ers hynny mae hi wedi cynhesu rhywfaint at y Gymraeg ar ôl cymryd rhan yn y gyfres Cariad@Iaith.
Jeremy Clarkson
Mae Cymru wedi bod yn gocyn hitio cyson i Clarkson dros y blynyddoedd. Yn 2001 fe awgrymodd ar raglen Top Gear mai'r rheswm bod pobl yn dod i Gymru i yrru ceir cyflym oedd gan nad "oes 'na unrhywun eisiau byw yno".
Pan roedd ganddo ei raglen sgwrsio ei hun mi osododd map 3D o Gymru mewn meicrodon a'i droi ymlaen. Daeth y cwynion yn eu cannoedd. Wrth amddiffyn ei hun dywedodd mai'r rheswm iddo wneud hynny oedd "doedd yr Alban ddim yn ffitio".
Yn 2011 roedd o wrthi eto gan olygu bod sach ar ôl sach o gwynion yn cyrraedd swyddfa Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC. Yn ei golofn yn The Sun awgrymodd y dylai'r Cenhedloedd Unedig feddwl o ddifri' am ddileu ieithoedd eraill.
"Beth yw pwynt Cymraeg, er enghraifft. Y cwbl mae hi'n wneud yw darparu bedwen i griw penboeth ddod o'i chwmpas i fod yn genedlaetholgar."