Storm Doris: Mwy o ddifrod i bier Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Aelod Cynulliad dros Orllewin Clwyd wedi galw ar Gyngor Conwy i ddatgymalu pier Bae Colwyn cyn i fwy o ddifrod gael ei achosi.
Dywedodd Darren Millar AC bod angen i'r cyngor "weithredu'n sydyn" yn dilyn difrod pellach i'r pier ddydd Iau o ganlyniad i storm Doris.
Roedd Cyngor Conwy ac Ymddiriedolaeth Fictoraidd Colwyn wedi datgan eu bwriad i achub rhannau o'r pier sydd o werth hanesyddol, eu catalogio a'u cadw rhag ofn y bydd penderfyniad yn y dyfodol i ail-adeiladu'r strwythur rhestredig.
'Dim opsiwn'
"Mae'r storm yn un o'r gwaethaf i daro gogledd Cymru yn ddiweddar felly tydi mwy o ddifrod i strwythur pier Bae Colwyn ddim yn fy synnu," meddai Mr Millar.
"Unwaith bydd y storm wedi setlo dylai'r cyngor weithredu'n sydyn a threfnu i ddatgymalu gweddill y pier cyn iddo gael ei ddifrodi ym mhellach.
"Tydi gadael y pier yn y cyflwr yma ddim yn opsiwn."