Recriwtio arwr o'r Andes i gasglu sbwriel Cymru
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy ymgyrch tymhorol newydd gan Cadw Cymru'n Daclus - Gwanwyn Glan Cymru - mae'r elusen wedi recriwtio arwyr sbwriel i'w cynorthwyo i drosglwyddo'r neges.
Mae un o'r arwyr mwyaf eithriadol yn byw ym mhentref Eryrys rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug, ac mae ganddo bedair coes.
Lama yw Domingo, ond mae ei berchnogion a'r elusen yn dweud ei fod yn effeithiol iawn mewn ymgyrch fel yma.
Y perchnogion yw Paola Albertazzi a Richard Heggerty o Ffermdy Glan Llyn, ac wrth fynd ati i glirio'r brif ffordd ger eu cartref, fe welodd Paola gyfle i gael help gan Domingo.
"Fe brynon ni Domingo yn wreiddiol i fod yn gwmni i geffyl sy'n amhosib i'w farchog," meddai, "ac hefyd i gadw'r ieir yn ddiogel rhag llwynogod.
"Ond roedd yn rhaid ffeindio rhywbeth arall iddo wneud pan 'naeth o ddechrau ymddwyn fel tasa fo'n geffyl ei hun - a dod yn ffrindiau efo un o'r llwynogod!
"Mae o'n licio cael gwneud rhywbeth, mae o wrth ei fodd yn cael helpu. Y ceffylau sy'n cael sylw fel arfer - ac mae o wrth ei fodd yn cael sylw rŵan."
Mwy o sylw
Mae Domingo yn mynd ati i gynorthwyo gyda dwy sach goch blastig wedi'u clymu i ffrâm bren ar ei gefn, het ar ei ben a'r sgarff am ei wddw.
Ychwanegodd Paola fod pobl yn cymryd tipyn mwy o sylw o'r gwaith o godi sbwriel pan fydd Domingo gyda hi, ac mae Cadw Cymru'n Daclus wedi ei fabwysiadu fel Arwr Sbwriel.
Swyddog Prosiect CCD yn Sir Ddinbych yw Gareth Jones, a ddywedodd: "Ry'n ni wedi dod o hyd i boteli yn llawn trychfilod marw, madfallod wedi'u boddi mewn pacedi creision a chathod bach wedi'u tagu gan fagiau plastig i enwi ond rhai digwyddiadau.
"Mae'r neges yn glir - mae sbwriel yn edrych yn ofnadwy ond mae o hefyd yn beryglus i anifeiliaid a phobl."
Dywedodd yr elusen y gall unrhyw un ymuno â'r ymgyrch, ac fe fyddan nhw'n derbyn cefnogaeth, cyngor ac yswiriant i'r 'arwyr' i'w cynorthwyo i wneud gwahaniaeth.
Bydd yr ymgyrch Gwanwyn Glan Cymru yn rhedeg o 1-5 Mawrth, ac mae manylion ar sut i ddod yn Arwr Sbwriel ar gael ar wefan Cadw Cymru'n Daclus.