Dathlu bywyd dau fardd fu farw yn y Rhyfel Mawr

  • Cyhoeddwyd
PaschendaeleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Milwyr ym Mrwydr Paschendaele

Mae arddangosfa i ddathlu bywyd dau fardd o Gymru fu farw yn y Rhyfel Mawr wedi agor yng Ngheredigion.

O dan yr enw Diffodd yr Awen, mae'r prosiect yn edrych ar fywyd, gwaith ac etifeddiaeth Hedd Wyn ac Edward Thomas.

Bu farw'r ddau yn 1917 - Hedd Wyn ym Mrwydr Passchendaele ac Edward Thomas ym Mrwydr Arras.

Mae'r arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth tan 2 Medi.

Copïau o awdl

Cafodd Hedd Wyn ei ladd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917.

Rhai wythnosau'n ddiweddarach fe enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw gyda'i awdl 'Yr Arwr'.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys copïau o'r awdl enwog honno gan Fardd y Gadair Ddu, ac atgofion ffrind a chyd-filwr iddo, J B Thomas, am eu hamser yn y fyddin.

Ffynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd gweld copi o awdl fuddugol Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw

Roedd Edward Thomas yn fab i siaradwr Cymraeg o Sir Fynwy, a daeth y wlad yn ysbrydoliaeth iddo wrth iddo astudio dan arweiniad O M Edwards yn Rhydychen.

Cafodd ei ladd ym Mrwydr Arras ar 9 Ebrill 1917 - ar ddydd Llun y Pasg - a hynny ychydig fisoedd wedi iddo gyrraedd Ffrainc.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys llythyrau yr anfonodd i'w wraig Helen, ble mae'n disgrifio bywyd yn y ffosydd, a hefyd y dyddiadur yr oedd yn ei ysgrifennu ac oedd yn ei boced pan fu farw.

Dywedodd Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae hi'n addas iawn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfa Diffodd yr Awen i goffáu canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn ac Edward Thomas, dau fardd a fu farw ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Mawr.

"Mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw'r cof yn fyw".