Llygredd wedi lladd cannoedd o bysgod yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae cannoedd o bysgod wedi eu lladd gan lygredd yn Afon Gwili yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio ar ôl adroddiadau o'r llygredd ger Llanpumsaint.
Ymysg y pysgod sydd wedi eu lladd mae brithyllod a lampreiod.
Yn ôl CNC, mae'r llygredd wedi dod o fferm agos, ac mae'r llif wedi ei atal.
Dywedodd Kimberley Redman o CNC bod y llygredd wedi cael "effaith sylweddol" ar bysgod, ond bod unrhyw effaith pellach yn "annhebygol".