Rheilffordd dal ar gau wedi difrod storm Doris
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheilffordd rhwng Gogledd Llanrwst a Blaenau Ffestiniog yn dal ar gau yn dilyn storm Doris wythnos diwethaf.
Y gobaith oedd ailagor y llinell ddydd Llun, ond daeth peirianwyr o hyd i graig ansefydlog wrth ymyl y cledrau ym Mhont-y-Pant yn Nyffryn Lledr.
Yn ôl Network Rail, mae angen gwneud gwaith ychwanegol cyn bydd y llwybr yn ddiogel i drenau.
Fe fydd gwasanaethau bws yn cymryd lle'r trenau tan ddydd Gwener.
Roedd coed wedi disgyn ar y cledrau yn yr ardal yn sgil y storm ddydd Iau.
Fe achosodd storm Doris ddifrod a thrafferthion teithio i bobl mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru ac fe gollodd 80,000 o gartrefi bŵer.
Fe gofnododd y swyddfa dywydd yng Nghapel Curig wyntoedd o 94 mya.