Teulu yn galw am ymchwiliad troseddol wedi i'w merch farw

  • Cyhoeddwyd
Ellie MayFfynhonnell y llun, ATHENA PICTURES

Mae teulu merch fach bump oed yn galw am ymchwiliad troseddol wedi ei marwolaeth.

Bu farw Ellie-May Clarke wedi iddi ddioddef pwl o asthma difrifol ar ôl i feddyg teulu yng Nghasnewydd wrthod ei gweld - gan ei bod hi a'i mam funudau yn hwyr ar gyfer apwyntiad.

Fe dderbyniodd Dr Joanna Rowe rybudd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) ac fe gafodd ei hatal o'r gwaith am chwe mis.

Mae hi erbyn hyn wedi symud i feddygfa arall.

Doedd hi ddim eisiau gwneud sylw ynglŷn â marwolaeth Ellie-May.

'Bywyd yn deilchion'

Dywedodd nain Ellie-May, Brandi Clark: "Mi oedden nhw ychydig funudau yn hwyr ac fe ddywedodd Shanice wrth y derbynnydd na fydden nhw yna ar amser.

"Ond fe anfonodd Dr Rowe nhw adref.

"Fe olygodd ei phenderfyniad bod ein merch fach brydferth wedi colli ei bywyd.

"Mae ein bywyd yn deilchion ond mae Dr Rowe wedi cael symud i swydd newydd ac wedi cael parhau gyda'i bywyd fel bod dim byd wedi digwydd."

Roedd Ellie-May yn dioddef yn ddrwg o asthma ac wedi cael ei thrin bum gwaith mewn uned gofal dwys yn yr ysbyty.

Cafodd ei hanfon adref o'r ysgol ar 26 Ionawr 2015 am fod ei hathrawon yn pryderu bod ei hasthma yn "gwaethygu".

Lluniau

Ymchwiliad bwrdd iechyd

Fe ffoniodd ei mam, Shanice 999 oriau ar ôl iddi gael ei hanfon adref gan y meddyg teulu ar ôl iddi gael pwl a stopio anadlu.

Er ymdrechion y meddygon yn yr ysbyty fe fuodd hi farw.

Dangosodd ymchwiliad y GMC bod Dr Rowe wedi "methu ac ystyried hanes meddygol y plentyn."

Cafodd rybudd a fydd yn aros ar ei chofnodion am bum mlynedd.

Dangosodd ymchwiliad gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan, sydd yn gyfrifol am y feddygfa yng Nghasnewydd fod Dr Rowe wedi "methu a gwneud asesiadau clinigol."

Mae'r adroddiad cyfrinachol yn dweud nad oedd Dr Rowe wedi gweld unrhyw glaf rhwng 16.55 a 17.20 yn sgil nifer o apwyntiadau oedd wedi eu canslo'r diwrnod hwnnw.

Dywedodd llefarydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Ellie May.

"Fe allwn ni gadarnhau nad yw Dr Rowe yn gweithio o fewn dalgylch y bwrdd iechyd yma ac ein bod hefyd wedi cyfeirio'r achos at y Cyngor Meddygol Cyffredinol wnaeth ymchwilio yn unol â'u trefniadau nhw."

Mae'r crwner eisoes yn ymchwilio i'r farwolaeth ac mae disgwyl i gwest gael ei gynnal.