Ffliw adar: Llacio'r cyfyngiadau ar ddofednod

  • Cyhoeddwyd
IeirFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mewn newid i gyfyngiadau ffliw adar, bydd dofednod yng Nghymru yn cael eu gadael y tu allan i alluogi pobl i gadw eu statws cynnyrch maes.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud bod rhaid cadw dofednod y tu mewn i'w diogelu rhag straen heintus iawn o'r salwch.

Ond o ddydd Mawrth ymlaen bydd adar yn cael eu gadael y tu allan os yw ceidwaid yn cymryd mesurau i leihau risg.

Mae undebau ffermio wedi croesawu'r datblygiad.

Cyfyngiadau

Cafodd ardal warchodedig ei osod ar hyd Cymru ym mis Rhagfyr ar ôl i achosion o straen H5N8 gael eu darganfod yn Ewrop mewn gwledydd fel Ffrainc a'r Almaen.

Bu 10 achos yng Nghymru a Lloegr ers i'r cyfyngiadau ddod i rym, gan gynnwys rhai ym Mhontyberem, Llanelli a Chonwy.

Fe wnaeth y rheolau ennyn pryder gan NFU Cymru, am y gallai effeithio ar statws cynnyrch maes y dofednod.

Christianne Glossop
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christianne Glossop yn mynnu nad yw'r perygl o ffliw adar wedi diflannu

Er llacio'r cyfyngiadau, dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Christianne Glossop wrth BBC Cymru nad yw'r perygl o ffliw adar wedi diflannu.

"Dydyn ni ddim mewn sefyllfa i gael gwared ar y gofynion yn gyfan gwbl, ond rydyn ni'n cydnabod bod y cyfyngiadau wedi bod mewn grym am 12 wythnos bellach," meddai.

Ychwanegodd mai un o'r rhesymau am y newid oedd oherwydd bod rhai dofednod yn cael eu cadw mewn amgylchiadau oedd ddim yn ddelfrydol.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn "ceisio rhoi ffordd i'n cynhyrchwyr cynnyrch maes barhau i ddiogelu eu hadar tra'n cadw eu statws".