Staff yn gadael Gomer yn sgil anhapusrwydd honedig

  • Cyhoeddwyd
Gwasg GomerFfynhonnell y llun, Google

Mae BBC Cymru yn deall bod wyth aelod o staff Gwasg Gomer ger Llandysul wedi penderfynu gadael y cwmni oherwydd anhapusrwydd honedig ynglŷn â phroses ailstrwythuro mewnol.

Yn ôl y sôn, mae'r broses yn golygu bod aelodau o'r staff yn gorfod gwneud cais o'r newydd am swyddi o fewn y cwmni.

Doedd Gomer, y cwmni cyhoeddi annibynnol mwyaf yng Nghymru, ddim yn fodlon ymateb i gwestiynau BBC Cymru ynglŷn â faint o'r gweithwyr sydd wedi penderfynu ymddiswyddo.

Ychydig wythnosau yn ôl fe gyhoeddwyd hysbysebion am bedair swydd ar ochr gyhoeddi'r wasg, sef Golygydd Cymraeg, Golygydd Saesneg, Swyddog Hyrwyddo ac Ymgyrchoedd, a Swyddog Marchnata Digidol.

Fe fydd y swyddi hynny wedi eu lleoli yng Nghaerfyrddin, gyda'r ochr gyhoeddi yn cael ei symud yno o Landysul.

Yn sgil y broses ailstrwythuro, mae wyth o weithwyr wedi penderfynu gadael. Yn eu plith mae'r Prifardd Ceri Wyn Jones, oedd yn Olygydd Llyfrau Saesneg i Oedolion, ac Elinor Wyn Reynolds, oedd yn Olygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion - unigolion profiadol ac uchel iawn eu parch ym maes cyhoeddi.

Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Ceri Wyn Jones oedd Golygydd Llyfrau Saesneg i Oedolion Gwasg Gomer

Yn ôl un cyn-aelod o staff, mae yna bryderon mewnol wedi codi am newidiadau i'r broses o gomisiynu llyfrau o fewn y wasg.

Fe ddywedodd y person yma ei bod hi'n gyfnod pryderus iawn, a bod y maes golygu llyfrau yn faes arbenigol tu hwnt.

Roedd yna bryder mawr y byddai profiad gwerthfawr yn cael ei golli ar adeg brysur, gyda'r cyfnod cyn yr Eisteddfod yn un allweddol bwysig i weisg Cymru, a swyddi pwysig yn cael eu colli mewn ardal wledig.

Mewn datganiad, dywedodd Jonathan Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gomer, bod y cwmni yn y broses o ailstrwythuro er mwyn sicrhau bod Gomer yn gwmni masnachol cadarn; fod pedair o swyddi wedi eu hysbysebu, a bod y cwmni'n gobeithio penodi cyn diwedd Mawrth.

Ond doedd y cwmni ddim yn fodlon ymateb i gwestiynau pellach nac ychwaith cadarnhau'r niferoedd sydd wedi penderfynu gadael y cwmni.

'Hyderus'

Dywedodd Cyngor Llyfrau Cymru eu bod nhw'n ymwybodol o gynlluniau Gwasg Gomer i ailstrwythuro: "Mae gan y wasg ran eithriadol o bwysig i'w chwarae yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac mae'r Cyngor Llyfrau am ei gweld yn ffynnu.

"Cwmni masnachol yw Gomer ac mae'n bwysig i'r byd llyfrau'n gyffredinol eu bod yn llwyddo fel busnes.

"Mae unrhyw gyfnod o newid yn anodd i bawb sydd ynghlwm a'r broses, yn enwedig mewn cwmni bach teuluol fel Gwasg Gomer.

"Rydym yn hyderus y bydd pethau'n sefydlogi ac y bydd y wasg yn parhau i wneud cyfraniad pwysig i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru."

Mae Gwasg Gomer wedi bod yn argraffu ac yn cyhoeddi ers canrif a chwarter.

Erbyn hyn mae'n un o'r cwmnïau cyhoeddi annibynnol mwyaf yng Nghymru, yn cyhoeddi dros gant o lyfrau bob blwyddyn.

Mae teulu'r Lewisiaid wedi bod yn graidd i'r busnes o'r cychwyn, ac yn 2004 fe symudodd y wasg i safle newydd ar gyrion tref Llandysul.