Rhybudd am broblemau unigrwydd i'r henoed yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
HenaintFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Cymru yn wynebu "epidemig o unigrwydd" ymhlith pobl hŷn oni bai bod yr awdurdodau lleol yn gweithredu, meddai un elusen.

Dywedodd Age Cymru fod unigrwydd yn realiti dyddiol i nifer, gyda 75,000 o bobl hŷn yn dweud eu bod wastad neu yn aml yn teimlo yn unig.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae'r pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol yn golygu mwy o bwysau ar wasanaethau sy'n cynnig cymorth i bobl hŷn.

Dywedodd prif weithredwr Age Cymru, Ian Thomas, fod angen mynd i'r afael â phroblem unigrwydd a hynny fel mater o flaenoriaeth o ran iechyd cyhoeddus.

"Mae yna nifer o resymau pam fod pobl hŷn yn teimlo'n unig - fel trafnidiaeth wael, y math o amgylchedd sydd wedi ei greu yn ein trefi a'n dinasoedd, a diffyg adnoddau a chyfleusterau gan gynnwys toiledau cyhoeddus."

Iechyd

Yn ôl Mr Thomas mae teimlo'n unig yn gallu arwain at broblemau iechyd fel problemau ar y galon, a phwysau gwaed uchel.

"Mae 'na hefyd brawf fod cysylltiad rhwng unigrwydd ag iselder, a hunanladdiad," meddai.

Mae tua 20% o boblogaeth Cymru o 3.1m yn 65 oed neu'n hŷn.

Mae Age Cymru am weld awdurdodau lleol yn:

  • Creu amgylchedd diogel lle mae'n hawdd cael mynediad iddynt ac sydd wedi'i integreiddio gyda thrafnidiaeth gyhoeddus;

  • Gweithio gyda sefydliadau trafnidiaeth, tai, iechyd, gofal, gwirfoddol, a meddygon teulu er mwyn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i fynd i'r afael ag unigrwydd;

  • Cynnig gwasanaethau sy'n atal neu'n rheoli unigrwydd a theimlo'n ynysig ar adegau anodd, fel marwolaeth perthynas agos.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Gill Stafford yn 68 ac wedi ymddeol fel swyddog technoleg gwybodaeth.

Symudodd o'r Waun i fyw yn Abergele ar ôl i'w gŵr farw ddwy flynedd yn ôl.

Mae hi'n byw gyda'i mab 30 oed sy'n dioddef o barlys yr ymennydd ac sy'n defnyddio cadair olwyn.

"Fe wnes i symud o'm cartref yn Y Waun lle o'r blaen roeddwn yn gallu mynd sawl diwrnod heb siarad ag unrhyw un. Roeddwn yn arfer dal y bws er mwyn gallu siarad â rhywun," meddai.

"Mae hynny'n ffordd dda i gychwyn sgwrs.

"Ond o leiaf yma yn Abergele, mae pobl yn fwy cyfeillgar ac mae mynd am dro yn y parc yn golygu fy mod yn cyfarfod a chyfarch pobl.

"Ond mae fy sefyllfa gymdeithasol dal yn golygu fy mod yn unig ar adegau oherwydd nad oes gennyf ffrindiau na pherthnasau heb fy mod yn gorfod teithio am oriau."

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod yna "gydnabyddiaeth gynyddol" fod unigrwydd yn "broblem ddifrifol sydd â goblygiadau pellgyrhaeddol".

Dywedodd llefarydd: "Mae llywodraeth leol yn cytuno â phwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol i fynd i'r afael ag unigrwydd, ac rydym yn gwerthfawrogi fod y gwasanaethau hyn yn gwneud cyfraniad hanfodol wrth leihau'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y gwasanaeth iechyd.

"Ond, mae lleihad mewn cyllidebau wedi rhoi pwysau ychwanegol ar argaeledd gwasanaethau o'r fath, gyda nifer o awdurdodau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ran blaenoriaethu gwahanol fathau o wasanaethau."