Cywirdeb 'yn atal rhai chwaraewyr' rhag siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r Gymraeg gael mwy o sylw nag erioed ym maes chwaraeon a darlledu mae cyn faswr Cymru, Jonathan Davies yn galw am fwy o anogaeth i'r rheiny sy'n llai hyderus yn eu Cymraeg.
Dywedodd bod rhoi pwysau ar bobl i siarad Cymraeg pur yn gwneud rhai chwaraewyr yn llai parod i arddel yr iaith.
Cafodd ei farn ei hategu gan y cyn bêl-droediwr, Owain Tudur Jones, sy'n dweud bod y sefyllfa'n debyg yn ei gamp o.
Daeth sylwadau Davies cyn cynhadledd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon.
'Pwysau'
Yn siarad ar raglen Newyddion 9 nos Iau, dywedodd Davies: "Fi'n trio siarad yn naturiol, 'smo'n Gymraeg i mor dda â lot o bobl ond dwi'n gwneud rhaglenni chwaraeon a newyddion chwaraeon yn Gymraeg.
"Os fi'n gallu neud a helpu'r iaith fi'n hapus i wneud hynny.
"Fi'n credu mae cymaint o bwysau... os yw pobl yn trio siarad Cymraeg mae'r bobl na sy'n meddwl bo nhw'n bwysig yn yr iaith Gymraeg yn tueddu dodi nhw lawr.
"A fi'n gwybod bod sawl chwaraewr ddim mo'yn siarad Cymraeg achos bo nhw'n meddwl bod nhw'n cael cymaint o bwysau arnyn nhw achos dyw pobl ddim yn meddwl bod eu Cymraeg nhw ddim yn ddigon pur.
"A fi'n credu byddech chi'n surprised pwy yw'r chwaraewyr 'na sydd ddim mo'yn siarad Cymraeg achos y pwysau hynny."
'Anghyfforddus'
Dywedodd y cyn bêl-droediwr, Owain Tudur Jones, bod y sefyllfa'n debyg yn y gamp honno.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n hawdd i fi, i bobl sy' wedi'u dwyn i fyny yn siarad yr iaith fel iaith gyntaf, ond dydy hi ddim mor hawdd i bobl sydd yn Gymraeg ail iaith," meddai.
"Yn y byd pêl-droed, dyna'n union dwi wedi'i weld. Ma' Joe [Allen] yn gyfforddus ofnadwy yn gwneud cyfweliadau'n Gymraeg rŵan, ond dwi'n gw'bod dros y blynyddoedd ei fod o ddim yn gyfforddus gwneud cyfweliadau'n Gymraeg achos ei fod o'n meddwl bod ei Gymraeg o ddim digon da. Aaron [Ramsey] 'run fath.
"Mi o'dd Aaron yn gwneud cyfweliadau'n Gymraeg pan oedd o'n chwarae i Gaerdydd. Ond iddo fo, yn anffodus, gael y profiad o bobl yn cywiro geiria', sut i siarad a gwneud iddo fo deimlo'n anghyfforddus, 'da ni rŵan mewn sefyllfa lle 'da ni ddim yn cael clywad o'n siarad yn ein iaith ni.
"Dydy o ddim y mwyafrif, ond yn anffodus oll mae'n gymryd ydy i un person dd'eud rwbath. Os ti ar Twitter ar ôl gêm bêl-droed a ma' 20 o bobl yn d'eud bod chdi'n 'briliant', ac un person yn d'eud fel arall, yn aml iawn un fela sy'n aros yn y cof."
'Tamed bach o slac'
Dywedodd Davies ei bod hi'n bwysig i bobl "feddwl am eraill" wrth fynd ati i newid y sefyllfa.
"Falle bod eu iaith nhw yn bur ac yn iawn ond sdim pawb fel nhw achos sdim pawb yn defnyddio'r iaith bob dydd," meddai.
"Os ydyn nhw mo'yn i'r iaith i gadw fynd a chryfhau'r iaith mae angen rhoi tamed bach o slac i bobl, a gweud os ydyn nhw'n fodlon siarad Cymraeg fel maen nhw'n hapus, wel dyna ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2017