Cynnal cynhadledd Pride yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
senedd

Mae disgwyl tua 100 o gynrychiolwyr o'r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae Rhwydwaith Trefnwyr Pride y DU yn croesawu cynrychiolwyr o dros 90 o ddigwyddiadau LGBT o dros y DU.

Bydd cynrychiolwyr yn cael eu croesawu gan gadeirydd Pride Cymru, Lu Thomas, ac yn clywed araith gan Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant AC.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Mr Sargeant bod y gwaith i sicrhau cydraddoldeb yn parhau, ond bod y llywodraeth yn "adnabod gwerth a phwysigrwydd digwyddiadau Pride fel safiad positif yn erbyn gwahaniaethu".