Nodi cyfraniad un o Hoelion Wyth Aberporth, John y Graig
- Cyhoeddwyd
Mae dathliadau yn Aberporth nos Lun i nodi cyfraniad un o sylfaenwyr cymdeithas Hoelion Wyth.
Roedd John Davies, neu John y Graig, yn un o'r pedwar sefydlodd y gymdeithas yn 1973.
Mae'r gymdeithas yn dal i fod yn ffordd hanfodol o gymdeithasu i gymunedau gwledig y gorllewin, gyda'r bwriad o fod yn fath o Ferched y Wawr i ddynion ar y dechrau.
Ac yntau'n 92 oed ddydd Llun, cafodd ei ymdrech gydol oes ei goffau gyda phlac arbennig.
Cangen John y Graig yn Aberporth oedd y cyntaf i gael ei sefydlu, ond yn fuan wedi hynny, roedd canghennau Cors Caron, Sion Cwilt, Beca, Wes Wes a Hendy Gwyn.
Erbyn heddiw, creu "difyrrwch iach cefn gwlad" yw'r nod.
Dywedodd John bod ei wraig yn un o'r rhai sefydlodd Merched y Wawr yn Aberporth, ac felly meddyliodd "pam lai" na fyddai rhywbeth tebyg i ddynion yr ardal.
Wrth ddathlu ei ben-blwydd, dywedodd bod cael plac i goffau ei waith yn "anrhydedd".