Cyffuriau: Aelod Seneddol yn beirniadu Cyngor Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Nid yw Cyngor Wrecsam yn "gwneud ei waith" wrth fynd i'r afael â phroblemau cyffuriau yn y dref, meddai'r Aelod Seneddol Llafur lleol, Ian Lucas.
Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddi lluniau ar wefannau cymdeithasol o'r defnydd o gyffuriau yng ngorsaf bysiau'r dref.
Dywed yr AS nad oedd y cyngor wedi gwneud y "cynnydd sylweddol" yr oedd wedi ei wneud, fel ag yr oedd yr awdurdod wedi nodi mewn datganiad ddydd Llun.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r cyngor am sylw.
Dywedodd Mr Lucas fod y cyngor wedi cael gwybod ddydd Gwener diwethaf fod 15 o chwistrellau wedi eu darganfod mewn parc yn y dref ond erbyn prynhawn dydd Llun roeddynt yn dal yno.
"Mae hyn yn annerbyniol, nid ydynt yn gwneud eu gwaith," meddai.
"Mae gan yr awdurdod lleol adnoddau. Mae hwn yn fater o iechyd amgylcheddol. Nid ydw i am weld plentyn yn gafael mewn chwistrell yn Wrecsam.
"Allai ddim ond erfyn arnyn nhw i gael trefn ar bethau, a chydweithio gyda'r heddlu...a gweithio gydag asiantaethau gwirfoddol fel y gallwn gydweithio ar hyn."
Ychwanegodd fod trigolion lleol yn "flin" am "eu bod yn gweld eu tref yn cael ei chipio i ffwrdd oddi wrthyn nhw ac maen nhw'n credu nad oes modd iddyn nhw fynd i ganol y dref ddim mwy".
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol cymunedau a phartneriaethau gyda Chyngor Wrecsam ddydd Llun fod "cynnydd sylweddol" wedi ei wneud, gyda dros 100 o ddirwyon wedi eu rhoi i bobl oedd wedi dangos ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r cyngor wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r heddlu a chyrff eraill i geisio taclo'r broblem, meddai.
Yn Nŷ'r Cyffredin gofynnodd Mr Lucas wrth yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Liz Truss os gallai arbenigwyr o garchar newydd Y Berwyn yn y dref helpu.
Dywedodd hithau y byddai'n fodlon trefnu cyfarfod rhwng Mr Lucas a'r gwasanaeth carchardai "er mwyn i ni wneud cynnydd gyda'n gilydd."