Eisteddfod: Llenwi maes carafanau 'yn gynt nag erioed'
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ynys Môn yn dweud nad ydyn nhw erioed wedi llenwi'r maes carafanau mor sydyn ag eleni.
Gyda phum mis i fynd nes yr ŵyl mae pob lle eisoes wedi eu harchebu - rhywbeth sydd "erioed" wedi digwydd o'r blaen yn ôl y prif weithredwr.
Dywedodd Elfed Roberts y byddai'r Eisteddfod nawr yn trafod â pherchnogion gwersylloedd cyfagos er mwyn ceisio dod o hyd i fwy o le.
"Mae'r maes carafanau wedi bod ar agor [i archebu lle] ar gyfer Eisteddfod Ynys Môn ers cwta fis, ac mae pob un o'r safleoedd, bron i 800, wedi mynd," meddai.
"Dydi hynny erioed 'di digwydd o'r blaen mor gynnar.
"Roeddan ni'n gwybod fod 'na andros o lot o frwdfrydedd ynglŷn â'r Eisteddfod eleni yn Ynys Môn, ond mae gwerthu'r math yma o niferoedd mewn cyn lleied o amser yn dipyn o sioc.
"Mae'n beth da, achos mae'n dangos brwdfrydedd ac mae'n dangos bod awydd i ddod i'r Eisteddfod."
Ychwanegodd nad oedd ehangu'r maes carafanau presennol yn opsiwn "ymarferol" ar hyn o bryd, ond bod disgwyl i'r cyngor sir gyhoeddi rhestr yn fuan o feysydd eraill fyddai ar gael i eisteddfodwyr.
Dydi'r Eisteddfod ddim yn cadw rhestr aros ar gyfer y maes carafanau, sydd yn dal tua 800 carafán a 200 o bebyll.
Bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ym Modedern rhwng 4 a 12 Awst.