Ffos-y-Frân: Arbenigwr yn galw am ymchwiliad iechyd

  • Cyhoeddwyd
Ffos-y-Fran
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y gwaith yn Ffos-y-Frân yn 2007, gyda chynllun gwaith am 17 o flynyddoedd

Gall BBC Cymru ddatgelu y bydd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig (CU) yn galw am ymchwiliad annibynnol i effaith posib glofa brig fwya'r DU ar iechyd y gymuned leol.

Mae pobl sy'n byw ger Ffos-y-Frân, ar gyrion Merthyr Tudful, wedi bod yn ymgyrchu ers dros ddegawd, gan honni bod llygredd aer a sŵn yn effeithio arnyn nhw.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd Rapporteur Arbennig y CU ar Sylweddau a Gwastraff Peryglus, Baskut Tuncak, fod y ffordd y mae'r awdurdodau wedi delio â chwynion y gymuned wedi codi "nifer o bryderon" am agwedd y DU tuag at reolaeth amgylcheddol.

Cyhuddo ymgyrchwyr o ledu "newyddion ffug" mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y safle, Miller Argent.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod cynghorau yn cynnal asesiadau cyson o'r aer, ac yn cael cefnogaeth i wneud hynny. Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Rôl y Rapporteur yw asesu a chynghori llywodraethau ar ymdrechion i warchod hawliau dynol cymunedau sydd â risg o gael eu heffeithio gan lygredd

Daeth y Rapporteur Arbennig i Ferthyr Tudful fel rhan o ymweliad swyddogol â'r DU ym mis Ionawr.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd bod yr hyn a welodd ac a glywodd gan y gymuned ger Ffos-y-Frân "ar frig rhestr oedd yn cynnwys nifer o faterion dybryd".

"Y sylw cynta' ddaeth i mi oedd pa mor hynod o agos oedd y gymuned yma i lofa agored enfawr," meddai Baskut Tuncak.

"Fe glywais i honiadau o gyfraddau uchel iawn o asthma ymysg plant a chlystyrau o ganser o fewn y gymuned.

"Ond er yr honiadau rheiny, wnes i ddim clywed unrhyw dystiolaeth o ymyrraeth gan y llywodraeth i ymchwilio na 'chwaith unrhyw ymyrraeth gref gan y cwmniau sy' ynghlwm â'r lofa i ymchwilio i'w hunain."

Dechreuodd y gwaith o gloddio 11m o dunnelli o lo dros gyfnod o 17 mlynedd ar safle Ffos-y-Frân yn 2007, yn dilyn sawl achos llys, ymchwiliad cyhoeddus, deisebau a phrotestiadau.

Mae'r tai agosa' lai 'na 40m (132tr) o'r safle, ac mae ysgolion, parciau chwarae a meithrinfa gerllaw.

Fe wnaed y penderfyniad i gymeradwyo'r cais gan bwyllgor amlbleidiol oedd yn cael ei gadeirio gan Carwyn Jones, y gweinidog amgylchedd ar y pryd, sydd bellach yn Brif Weinidog.

Ond cafodd y penderfyniad ei atal gan yr Uchel Lys wedi honiad fod Mr Jones wedi dod i benderfyniad cyn i'r pwyllgor cynllunio gwrdd.

Gwadu'r cyhuddiadau wnaeth Mr Jones a chefnogodd barnwyr y Cynulliad, gan gefnogi'r cais ar apêl.

Dywedwyd wrth drigolion lleol y byddai dulliau cloddio cyfoes yn golygu na fyddai llygredd yn effeithio arnyn nhw, gyda'r gwaith yn adfer 1,000 erw o hen dir diwydiannol a'i droi'n dir i'r gymuned.

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai fod ardal o 500m rhwng unrhyw ddatblygiad glo brig newydd yng Nghymru a'r cymunedau o'u hamgylch.

'Lefelau syfrdanol o lwch'

Terry Evans, cadeirydd yr ymgyrch lleol yn erbyn y lofa, sy'n byw agosa' at y safle - rhyw 37m o'r ffin. Mae'n dweud ei fod "lefelau syfrdanol o lwch" wedi effeithio arno.

"Ar ddiwrnod braf, pan fo'r gwynt yn chwythu o gyfeiriad y dwyrain ry'ch chi'n gallu gweld y llwch yn dod drosto' ni - mae'n codi braw ar rywun."

Yn ystod y blynyddoedd cynnar mae'n dweud i'r cwmni oedd yn rhedeg y lofa anfon pobl i lanhau ei ffenestri a rhoi "amlenni o arian i ni".

Mae Chris ac Alyson Austin, sy'n byw rhai llathenni i ffwrdd o Terry Evans, yn dweud bod y sefyllfa wedi "strywio eu bywydau".

"Mae'n anodd rhoi dillad ar y lein a mwynhau'r ardd," meddai Mrs Austin, "ar ddiwrnodau cynnes 'dyn ni ddim hyd yn oed yn gallu agor y ffenestri".

"Ac mae'r holl lwch yna'n mynd yn syth i'n hysgyfaint ni," ychwanegodd Mr Austin, "gyda'r henoed a phlant wedi'u heffeithio waetha'".

Mae llygredd sŵn yn bryder hefyd i'r gymuned, ond mae'r ymgyrchwyr yn honni oes neb wedi gwrando ar eu cwynion, a bod eu galwadau am ymchwiliad i oblygiadau'r sefyllfa ar iechyd y gymuned wedi'u hanwybyddu.

Ceisiodd 500 o bobl leol ddwyn achos llys fel grŵp, ond cafodd eu hymgais ei wrthod gan yr Uchel Lys am nad oedden nhw'n medru fforddio gwneud.

"Ry'n ni wedi trio popeth," mynnodd Mr Austin.

"Y'ch chi'n mynd at eich AS - a nhw'n dweud nad yw e'n fater i San Steffan. Y'ch chi'n mynd at yr AC - a nhw'n dweud ei fod e'n fater i'r awdurod lleol. Y'ch chi'n mynd at yr awdurdod lleol a nhw'n dweud 'siaradwch gyda'r cwmni'. Y'n ni'n cael ein gyrru o un lle i'r llall drwy'r amser."

"Mae'r gymuned wedi cael ei haberthu, mae arna' i ofn," yw casgliad Terry Evans, "a'r cyfan oherwydd arian ac elw."

'Swyddi da'

Mae Miller Argent yn dweud eu bod yn cefnogi 200 o swyddi yn lleol sydd yn talu'n dda, ac yn cyfrannu at gynhyrchu trydan fforddiadwy ar draws y DU.

Mae'r cwmni yn bwriadu ehangu, ac wedi gwneud cais am lofa brig newydd 478 hectar (1,180 erw) yn Nant Llesg, ger Rhymni. Fe wrthodwyd y cais gan Gyngor Caerffili yn Awst 2015 ond mae'r cwmni yn apelio'r penderfyniad.

Dywedodd Mr Tuncak fod yr awdurdodau ym Mhrydain wedi methu delio â phryderon y bobl leol mewn modd derbyniol, gyda "haenau amrywiol y llywodraethau yn symud y cyfrifoldeb o'r naill i'r llall".

"Fe glywais i rhai o'r honiadau ynglŷn â iechyd yn cael eu hwfftio a'u cysylltu at ffordd o fyw pobl mewn ardal dosbarth gweithiol. Ond beth na welais i oedd unrhyw ymchwiliad go iawn gan yr awdurdodau i asesu'r honiadau yma," meddai.

"Yn y pendraw, cyfrifoldeb y llywodraeth ganolog yn San Steffan yw hyn."

Fe eglurodd Mr Tuncak tra bod gweinidogion Cymreig ym Mae Caerdydd ag awdurdod dros faterion amgylcheddol fel llygredd aer, "yn aml does ganddyn nhw ddim o'r adnoddau i fonitro'r sefyllfa yn ddigonol a sicrhau bod cwmnïau'n cydymffurfio â'r rheolau."

Ychwanegodd: "A thra'u bod nhw wedi datganoli rhai o'r cyfrifoldebau rheiny at gynghorau lleol... 'dyw hynny hefyd ddim wedi digwydd ar y cyd â datganoli adnoddau ariannol digonol er mwyn sicrhau'r rheolaeth amgylcheddol y mae gan gymunedau yr hawl i'w ddisgwyl."

Disgrifiad,

Cyfeillion y Ddaear: 'Nid problem leol yn unig yw Ffos-y-Frân'

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Dros Dro Cyfeillion y Ddaear Cymru, fod yr achos wedi dod â "system ddiffygiol" y DU o ran rheolaeth amgylcheddol i'r amlwg.

Mynnodd bod Llywodraeth y DU yn cynnal ymchwiliad annibynnol am yr amodau penodol yn achos Ffos-y-Frân "cyn gynted â phosib".

Yn ôl y Farwnes Christine Humphries o'r Democratiaid Rhyddfrydol, mae'r gymuned ym Merthyr wedi cael eu "sarhau" ers blynyddoedd, gyda phobl yn dweud bod y problemau iechyd oedd yn eu hwynebu nhw yn ganlyniad i ffordd o fyw dosbarth gweithiol.

Dywedodd: "Dwi mor falch bod y Rapporteur Arbennig wedi tynnu sylw at y sefyllfa yn Ffos-y-Frân. Mae'n hen bryd i rhywbeth ddigwydd, ac mae wedi cymryd rhywun o'r tu fas i Brydain i ddod yma a dweud hynny."

'Dwyn anfri'

Bydd adroddiad swyddogol Mr Tuncak ar ei daith i Brydain, oedd ar wahoddiad Llywodraeth San Steffan, yn cael ei gyflwyno i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa ym mis Medi.

Dywedodd llefarydd ar ran Miller Argent bod ymgyrchwyr lleol wedi bod yn lledu "newyddion ffug" am y sefyllfa, gan fynnu bod Ffos-y-Frân wedi bod yn destun i "nifer o achosion llys blinderus dros y blynyddoedd sydd wedi peryglu bywolaeth staff".

Ychwanegodd fod y lofa'n destun rheoleiddio dwys ac nad yw wedi'i erlyn unwaith am fynd yn groes i reolau amgylcheddol.

"Doedd gan y Rapporteur ddim hyd yn oed y cwrteisi i siarad ag unrhyw un o'r cwmni i glywed y ffeithiau am ein gwaith.

"Yn hynny o beth dyw e ddim yn berson diduedd ac mae hynny'n dwyn anfri ar ei swydd. Beth am hawliau dynol y 200 o bobl sy'n gweithio ar y safle?"

Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful nad oedd y Rapporteur wedi siarad â'r awdurdod a bod ei adroddiad "yn ymddangos ei fod yn seiliedig ar sylwadau di-sail gan rai aelodau o'r gymuned yn hytrach na ffeithiau".

Ychwanegodd llefarydd ei fod hefyd wedi methu â chynnwys bod rhai aelodau o'r gymuned wedi gwneud nifer o heriau cyfreithiol oedd wedi methu.

Dywedodd bod y cynllun wedi ei gymeradwyo ar ôl cael ei "alw i mewn" gan archwiliwr annibynnol yn hytrach na'r cyngor, a'i fod yn destun i nifer o amodau.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae gweinidogion yn cefnogi cynghorau i gynnal asesiadau cyson o'r aer a chanolbwyntio ar ardaloedd sy'n cael eu hystyried fel y rhai mwyaf tebygol o dorri rheolau.

Dywedodd y byddai'n ymateb i ymgynghoriad ar ansawdd yr aer yn fuan.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais i ymateb.