Cynlluniau i ailddechrau fferi dros Afon Tywi

  • Cyhoeddwyd
LlansteffanFfynhonnell y llun, Marc Sayce
Disgrifiad o’r llun,

Mae 1,000 o flynyddoedd o hanes i'r gwasanaeth fferi dros aber Afon Tywi, ddaeth i ben yn y 1950au

Mae cynlluniau i ailddechrau gwasanaeth fferi hanesyddol dros aber Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin wedi cael eu datgelu.

Daeth yr hen wasanaeth rhwng Llansteffan a Glan-y-fferi i ben yn y 1950au.

Ond nawr mae Cronfa Cymunedau'r Arfordir - sy'n medru rhoi arian i'r fath brosiectau - â diddordeb mewn adnewyddu'r gwasanaeth.

Maen nhw wedi gofyn am gynllun manwl wedi i dîm sy'n cynrychioli dwy ochr yr afon lunio amlinelliad o'u cynlluniau.

'Atyniad yn ei hun'

Ar hyn o bryd, mae'n drip 18 milltir - gan fynd trwy draffig tref Caerfyrddin - i gerddwyr a beicwyr groesi'r aber.

Un o'r rhai sydd tu ôl i'r cynllun yw'r Athro Kenton Morgan. Mae'n dweud bod potensial enfawr i ddatblygu'r diwydiant twristiaeth o amgylch y fferi.

"Bob blwyddyn, mae 'na 400,00 yn ymweld â thraeth Cefn Sidan, sydd ychydig i fyny'r arfordir, ac mae 'na ddegau o filoedd o ymwelwyr yn mynd i Gastell Llansteffan, Castell Glan-y-fferi ac ymhellach i Dalacharn gyda'i gysylltiad â Dylan Thomas.

"Os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd y fferi ei hun yn atyniad i diwristiaid."

Ffynhonnell y llun, Bad Achub
Disgrifiad o’r llun,

Fydd 'na fferi'n ymuno â'r bad achub ar aber Afon Tywi?

Mae'r cynlluniau yn cael eu cyflwyno o dan enw Menter Gymunedol Glan-y-Fferi. Dadl y grŵp yw y byddai'r fferi yn creu swyddi llawn amser sy'n brin yn yr ardal.

Ond er mwyn gallu cynnig gwasanaeth drwy'r dydd, mae'r grŵp yn dweud y byddai'n rhaid cael fferi sydd ag olwynion tebyg i awyren.

Mae'r dechnoleg hon wedi ei datblygu yn Seland Newydd, a byddai'n golygu na fyddai rhaid adeiladu glanfa 250 metr yn Llansteffan. Yn Solfach, Sir Benfro, y byddai'r cwch yn cael ei adeiladu.

Eisoes mae'r newydd wedi cael cefnogaeth cynghorau cymuned lleol a Chyngor Sir Gâr.

Bydd yn rhaid i'r ddogfen derfynol gael ei chyflwyno i Gronfa Cymunedau'r Arfordir erbyn yr hydref, gyda'r bwriad o ailddechrau'r gwasanaeth o fewn dwy flynedd.