Mwy na 300 o bontydd cynghorau'n 'is na'r safon'
- Cyhoeddwyd
Dyw mwy na 300 o bontydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan gynghorau drwy Gymru ddim mewn cyflwr digon da i ddal pwysau'r cerbydau trymaf, yn ôl Sefydliad yr RAC.
Mae'r corff yn dweud y byddai angen gwario £100m ar y pontydd i gyrraedd y safon ddisgwyliedig.
Mae hyn yn golygu nad yw 4% o bontydd cynghorau Cymru yn ddigon da i gario'r lorïau trymaf.
Ni chafodd ffigyrau am y sefyllfa yn Sir y Fflint eu cynnwys yng ngwaith ymchwil yr RAC.
Dywedodd llefarydd o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y gwaith yn cael ei "flaenoriaethu".
Ystadegau Cymru
Y cyngor gyda'r ganran uchaf o bontydd o dan y safon oedd Conwy, gyda 51 (22%) o'r 234 pont yno angen gwaith gwerth £2m.
Y cyngor gyda'r nifer uchaf o bontydd o dan y safon oedd Powys gyda 62 (5%) allan o'r 1,336 o bontydd yno'n methu cyrraedd y nod, ac yna Sir Gaerfyrddin gyda 55 (7%) allan o 798.
Yn ôl Sefydliad yr RAC, roedd angen y gwariant mwyaf ar atgyweirio pontydd yn Sir Ddinbych - gydag angen am £14m ar gyfer 20 (7%) pont allan o 280.
Fe ddaeth yr RAC i'r casgliadau hyn yn dilyn asesu data o 72,000 o bontydd ar rwydwaith ffyrdd y DU.
Ond roedd nifer o resymau gwahanol pam fod pontydd yn cael eu hystyried fel rhai oedd yn methu â chyrraedd y disgwyliadau.
Roedd rhai ar ffyrdd cyfyng cefn gwlad lle na fyddai lorïau trymion yn mentro.
'Blaenoriaethu cynnal a chadw'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod cynghorau'n cadw llygad cyson ar eu rhwydweithiau trafnidiaeth, yn cynnwys pontydd.
"O gofio am y pwysau ariannol sy'n cael ei wynebu gan awdurdodau lleol mae'n angenrheidiol i flaenoriaethu gwariant cynnal a chadw," meddai.
"Os bydd materion difrifol yn cael eu nodi ar unrhyw strwythur yna fe fyddai awdurdodau lleol yn cymryd y camau angenrheidiol neu hyd yn oed atal ei ddefnydd yn yr achosion gwaethaf."