Cyhoeddi deddf i ddiddymu Hawl i Brynu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau ddydd Llun i ddiddymu cynllun Hawl i Brynu ar draws y wlad.
Cafodd addewid i wneud hynny ei wneud ym maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiad Cynulliad 2016, ac mae cynghorau unigol eisoes wedi cael y pŵer i atal y cynllun.
Dywedodd y llywodraeth mai'r bwriad oedd amddiffyn stoc dai Cymru a sicrhau bod digon o gartrefi fforddiadwy i bobl sydd methu fforddio prynu neu rentu.
Roedd y cynllun Hawl i Brynu, sydd yn caniatáu i denantiaid cartrefi cymdeithasol brynu eu heiddo ar ôl byw yno am bum mlynedd, yn un o'r polisïau amlycaf gafodd eu cyflwyno gan Margaret Thatcher pan oedd hi'n brif weinidog.
'Ehangu stoc'
Mae cynghorau Ynys Môn, Sir Gâr ac Abertawe eisoes wedi dod â'r polisi i ben, tra bod cynghorau Caerdydd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi cyflwyno cynlluniau tebyg i weinidogion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant mai'r bwriad oedd annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu mwy o dai, ac mae'r cynlluniau wedi eu croesawu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Fe allai gymryd o leiaf blwyddyn yn dilyn pasio'r ddeddf i'r trefniadau newydd ddod i rym.
"Yn ogystal â thai cymdeithasol, byddwn ni hefyd yn cynnig cynlluniau fel Cymorth i Brynu a Rhentu i Brynu, fel bod pobl sy'n ennill incwm gweddol isel yn gallu perchen ar dŷ eu hunain," meddai'r ysgrifennydd.
"Rydyn ni'n cefnogi dulliau rhad o brynu tŷ, ac rydyn ni'n ehangu'r stoc o dai cymdeithasol. Bydd diddymu'r Hawl i Brynu yn cyd-fynd â'r camau gweithredu eraill hyn yr ydyn ni'n eu cymryd i gefnogi pobl y mae angen tai arnyn nhw."
Ond mae'r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan y Ceidwadwyr Cymreig, sydd yn dweud y bydd yn tanseilio "symudedd cymdeithasol".
"Mae'n hawdd i weinidogion Llywodraeth Cymru bregethu, ond yr unig beth fydd y ddeddfwriaeth yma'n ei wneud fydd amddifadu teuluoedd sy'n gweithio'n galed o'r cyfle i fod yn berchen ar eu tai eu hunain," meddai David Melding, llefarydd y blaid ar dai.
"Y rheswm am y diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru yw oherwydd nad yw Llafur wedi adeiladu digon ohonynt, nid oherwydd bod tenantiaid cyngor wedi cael y cyfle i brynu eu rhai nhw."