Ceffylau gwedd o Gymru yn symud i'r Dwyrain Canol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Huw Murphy a Mark Cole: "Braint" gwerthu eu ceffylau i'r Dwyrain Canol

Mae dau geffyl gwedd o Sir Benfro wedi cael cartref newydd - yn y Dwyrain Canol.

Cafodd JR ei eni ar fferm ceffylau gwedd yn Eglwyswrw yn 2007, ac mae'n frawd i Mercury Celt, gafodd ei brynu gan y Gwarchodlu Brenhinol yn 2008.

Ganwyd Joe ym mridfa Caerberllan yn Nhywyn, a chafodd ei fagu gan deulu'r Bodsworths ger Llandysul, ond mae'r ddau geffyl wedi bod yn difyrru ymwelwyr ar Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed yn Eglwyswrw ers rhai blynyddoedd.

Mae Huw Murphy, o Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed, wedi gweld y ddau geffyl yn tyfu a datblygu ar hyd y blynyddoedd.

"Mae JR yn pwyso ychydig yn llai na thunnell - tua 900 cilo - ac mae Joe yn pwyso dros 800 cilo," meddai.

"Bydd y ddau yn gwneud gwaith sydd yn debyg iawn i Celt - cario'r drymiau ar flaen y band."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe a JR bellach yn ymgartrefu yng nghynhesrwydd y Dwyrain Canol

Ychwanegodd Mark Cole, o'r fferm: "Mae'n fraint i ni fel teulu i weld hyn yn digwydd ond mae 'na deimladau cymysg.

"Mae'r ddau geffyl yn gymeriadau mawr ac mae ymwelwyr wrth eu bodd â nhw, ond mae hi'n ddiwrnod o falchder mawr."

Cafodd JR a Joe eu prynu gan wlad yn y Dwyrain Canol sy'n awyddus i'w defnyddio ar gyfer gorymdeithiau milwrol.

Doedd fferm Carnhuan ddim eisiau datgelu pa wlad sydd wedi prynu'r ddau geffyl, er mwyn gwarchod preifatrwydd y prynwr.

Mae'r ddau geffyl bellach yn ymgartrefu yng nghynhesrwydd y Dwyrain Canol, cyn dechrau ar gyfnod o hyfforddi dwys i fod yn geffylau drwm milwrol.