Grant o £50,000 i ddatblygu capel ym Mhen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp cymunedol ym Mhen Llŷn wedi cael grant cychwynnol o £50,000 i ddatblygu cynllun i addasu hen gapel.
Mae aelodau Capel Isa' yn Llithfaen yn addoli yn y festri ers tua 20 mlynedd oherwydd diffyg niferoedd, sydd wedi arwain at ddirywiad y prif adeilad dros y blynyddoedd diwethaf.
Ond mae capel Presbyteraidd y pentref, gafodd ei godi yn 1905, yn adeilad rhestredig, ac yn unigryw oherwydd ei gynllun.
Y gobaith yw y bydd y grant cychwynnol yn galluogi i gynlluniau manwl gael eu cyflwyno i drawsnewid yr adeilad.
Y cynllun yw i greu adeilad amlbwrpas, fydd yn cynnwys canolfan dreftadaeth, sinema, a llety i ymwelwyr.
'10 o aelodau'
Mae'r £50,000 yn caniatáu i Gwmni Hafod Ceiri brynu'r capel gan yr henaduriaeth, ond byddai angen bron i £1m i wireddu'r freuddwyd.
Dywedodd un o aelodau'r capel, Ann Roberts: "Ar un adeg, mae'n debyg ei fod yn orlawn yn aml iawn, ond bellach efo dirywiad y gymdeithas a dirywiad yr aelodau, dim ond rhyw 10 o aelodau sydd yna.
"Mae'n gam mawr, mae'n freuddwyd fawr, ond dwi'n gobeithio y gallwn ni, drwy wneud hyn, gadw addoldy yn y pentref a hefyd defnyddio'r holl adnoddau fydd yn y capel er lles yr holl gymdeithas."
Beth bynnag fydd dyfodol y datblygiad, mae Cwmni Hafod Ceiri yn gobeithio y bydd unrhyw waith wedi'i gwblhau erbyn haf 2019.