S4C ar ben ei hun yn 'Yr Egin'
- Cyhoeddwyd
Does dim cwmnïau eraill wedi ymrwymo i symud i'r adeilad a fydd yn gartref newydd i S4C.
Mae disgwyl i "Yr Egin", sy'n cael ei adeiladu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fod yn barod erbyn gwanwyn 2018.
Dywedodd penaethiaid y Brifysgol wrth aelodau seneddol eu bod yn gobeithio y byddai'r adeilad yn llawn maes o law.
Does yr un cwmni ar wahân i S4C wedi arwyddo cytundeb prydles hyd yma.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Y Drindod Dewi Sant, Medwin Hughes, ei fod yn gobeithio y byddai Yr Egin yn cyrraedd capasiti o 60% o fewn y ddau fis nesaf, ond cyfaddefodd byddai angen mwy o gwmnïau.
Rhaid cael mwy o gwmnïau
Dywedodd Mr Hughes wrth y Pwyllgor Materion Cymreig: "Mae £3m o'r arian rent sydd wedi'i dalu rhag blaen gan S4C yn helpu gyda llif arian am 2 i 3 blynedd, ond bydd angen iddo fod yn 60% llawn er mwyn i'r cynllun dalu ffordd."
Fel rhan o'r cytundeb gyda'r Brifysgol, bydd S4C hefyd yn talu £60,000 mewn taliadau gwasanaeth blynyddol.
Dywedodd AS Ceidwadol Brycheiniog a Maesyfed, Chris Davies, wrth y pwyllgor bod "arogl o gwmpas" y prosiect a "niwl" yn amgylchynnu y berthynas rhwng y Brifysgol ag S4C, ond gwadu hynny wnaeth Mr Hughes gan ddweud: "Mae hi wedi bod yn neges glir a chyson rhwng S4C a'r Brifysgol.
"Fel gydag unrhyw gytundeb mawr ceir cytundebau cyfrinachedd. Ar y cyfan, mae'r cysylltiad rhwng S4C a'r Brifysgol wedi cael ei gyflwyno mewn modd priodol."
Yn gynharach ym mis Mawrth fe gafodd yr Egin £3m o gyllid gan Llywodraeth Cymru ar ôl i'r Brifysgol sylweddoli na fyddai'r cyllid Ewropeaidd oedd ar gael iddynt yn ddigonol.