Hwb i'r Gymraeg yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Y Prifardd Mererid Hopwood, Ian Gwyn Hughes, y DJ Elan Evans a Dafydd Iwan fu'n ceisio ysbrydoli disgyblion Ysgol Glantaf i ddefnyddio rhagor ar y Gymraeg
Sut mae annog rhagor o ddisgyblion i siarad Cymraeg tu hwnt i furiau'r ysgol? Dyna oedd y cwestiwn gafodd ei drafod yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd y llynedd.
Roedd 'na bryder am ddylanwad y Saesneg ar ddiwylliant pobl ifanc.
Yn deillio o'r drafodaeth cafodd cynllun 'Byw yn Gymraeg' ei sefydlu i annog disgyblion i ddefnyddio'r iaith tu hwnt i goridorau'r ysgol.
Fel rhan o weithgareddau'r cynllun, cafodd 'diwrnod Cymreictod' ei gynnal yn yr ysgol - diwrnod yn llawn gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o fanteision siarad yr iaith.
Criw Blwyddyn 9 'Bwletin Ysgol' Glantaf sy'n adrodd am yr achlysur arloesol ar ran BBC Cymru Fyw:

Hybu'r iaith Gymraeg oedd y bwriad ar gyfer ein diwrnod arbennig i ddathlu Cymreictod yn ddiweddar. A daeth rhai o enwogion Cymru at ei gilydd i gefnogi'r fenter arloesol.
Cafodd cynllun BYG (Byw yn Gymraeg) ei sefydlu er mwyn annog disgyblion i siarad Cymraeg tu hwnt i'r ysgol.
"Mae'n rhaid dangos fod yna werth i'r iaith a bod modd ei defnyddio," dywedodd Miss Williams, athrawes Gymraeg, sy'n rhan o dim arwain pwyllgor BYG.
Codi calon
Y canwr a'r ymgyrchydd iaith, Dafydd Iwan, oedd y cyntaf i annerch y disgyblion. Dywedodd bod gweld cymaint o bobl ifanc yn siarad Cymraeg yng nghanol prifddinas Cymru yn codi ei galon.
"Yn y blynyddoedd roeddwn i'n adnabod Caerdydd yn gyntaf, roedd y Gymraeg yn perthyn i niferoedd bach. Beth sy'n wych nawr yw bod y Gymraeg yn perthyn i'r cannoedd a'r miloedd," meddai.
"Cymraeg yw'r peth pwysicaf sydd gennym ni fel cenedl a rhaid sicrhau nad yw'n ymuno â'r holl ieithoedd yma sydd wedi marw."

Tîm pêl-droed Cymru yn arddel yr iaith yn ystod Euro 2016
Bu Ian Gwyn Hughes, pennaeth materion cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn sôn ychydig am sut daeth y Gymraeg i sylw'r byd yn dilyn campau bythgofiadwy'r tîm pêl-droed cenedlaethol yn Euro 2016.
Bu hefyd yn rhannu syniadau am sut orau i ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i'r ysgol.
"Roedd Cymreictod ar ei orau yn ystod yr Ewros," dywedodd Ian Gwyn Hughes wrth y disgyblion. Ychwanegodd fod yr iaith Gymraeg yn "cyfleu teimlad o berthyn rhwng y chwaraewyr a chefnogwyr".
Diwrnod Cymreictod Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
'Gwneud fy ngorau glas'
Mae un o gyn-ddisgyblion Ysgol Glantaf, sef y chwaraewr rygbi Rhys Patchell, hefyd yn gwneud defnydd da o'r Gymraeg ar y maes chwarae. Daeth y maswr nôl i'w hen gynefin i arwain sesiwn hyfforddi.
Chwe blynedd ers iddi adael Ysgol Glantaf, daeth y DJ Elan Evans hefyd nôl i ddathlu diwrnod Cymreictod trwy drafod pwysigrwydd cerddoriaeth Cymraeg.
"Cymraeg yw beth yr ydych chi eisiau iddo fe fod," dywedodd Elan. "Os nad ydyn ni'n defnyddio'r Gymraeg, pwy fydd?"

Y cyn-ddisgybl Rhys Patchell yn rhannu ei arbenigedd gyda disgyblion Ysgol Glantaf
Felly, ydy cynllun BYG yn llwyddo yn ei fwriad i ysbrydoli pobl ifanc Glantaf i siarad fwy o Gymraeg yn eu bywydau bod dydd?
"Rwy'n dod o deulu Saesneg, ac felly mae'r iaith yn dod yn fwy naturiol i mi," meddai Elysia. "Ond rwy'n ymdrechu i siarad Cymraeg yn y dosbarth. Mae'r diwrnod Cymreictod wedi rhoi mwy o syniadau i mi ar sut i ddefnyddio'r iaith tu allan i'r ysgol."
Ac yn ôl Iwan, prif fachgen yr ysgol: "Rwy'n trio fy ngorau glas i siarad Cymraeg mewn gwersi ac yn y bistro. Mae'r diwrnod Cymreictod wedi rhoi cyfle i mi ystyried gwerth yr iaith ac i ddysgu mwy am ei hanes."
