Arddangos cynlluniau £200m i wella ffyrdd y gogledd

  • Cyhoeddwyd
A494Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yr A494 yw'r ffordd brysuraf dros y ffin rhwng gogledd Cymru a Lloegr

Mae cynlluniau ar gyfer gwerth mwy na £200m o welliannau i'r A494 a'r A55 yng ngogledd Cymru yn cael eu harddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf ddydd Mawrth.

Bwriad y buddsoddiad arfaethedig yw mynd i'r afael â thraffig ar y ffyrdd yng Nglannau Dyfrdwy.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y ffordd "yn is na safonau modern" ac mai'r buddsoddiad yma fyddai'r mwyaf ers i'r ffyrdd gael eu hadeiladu.

Mae'r cyntaf o bedair arddangosfa gyhoeddus yn dechrau ddydd Mawrth yng Nghlwb Cymdeithasol Ewlo rhwng 10:00 a 20:00.

Mae'r digwyddiadau yn rhan o ymgynghoriad yn edrych ar ddau gynnig - un ai gwella ffyrdd presennol yr A494 a'r A55, neu welliannau dros Bont Sir y Fflint ar hyd yr A548 a chyswllt newydd â'r A55 yn Llaneurgain.

Cafodd gynlluniau i ledu'r ffordd i fod yn draffordd saith lôn eu gollwng yn 2008 ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map o opsiynau'r llywodraeth, gydag un llwybr posib mewn coch, a'r llall mewn glas