Galw am statws 'diwylliannol' i stryd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
y stryd

Mae perchnogion clybiau a thafarndai ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd yn galw ar y cyngor i newid statws y stryd yn un "diwylliannol", er mwyn gwarchod sîn gerddoriaeth y brifddinas.

Daw'r alwad yn sgil datblygiadau diweddar ar y stryd ac yn yr ardal gyfagos.

Ddechrau'r flwyddyn, caewyd tafarn Dempsey's, a oedd yn cynnal gigs a digwyddiadau yn aml, ac fe fydd bar chwaraeon a bistro newydd yn agor ar y safle yn y misoedd nesaf.

Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd cwmni JD Wetherspoon eu bwriad i adeiladu 17 o ystafelloedd uwchben tafarn y Gatekeeper, er mwyn troi'r darn hwn o'r adeilad yn westy.

Mae ymgyrchwyr yn pryderu nad oes yna reolau sy'n amddiffyn y clybiau a'r tafarndai, petai yna ragor o ddatblygiadau yn yr ardal.

Dywedodd Cyngor Caerdydd nad ydy strydoedd yn derbyn statws "diwylliannol" yng Nghymru, ac mai mater i Lywodraeth Cymru yw fframwaith polisi cynllunio.

Disgrifiad,

Guto Brychan

Un o'r un o'r ymgyrchwyr sydd eisiau gweld yr awdurdod lleol yn newid statws y stryd yw Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach.

"'Dan ni'n galw ar y cyngor i newid statws y stryd, o ardal fasnachol, fel mae o ar hyn o bryd, i un diwylliannol, a bod yna elfen ynghlwm efo hynny sydd yn cymryd mewn i ystyriaeth bod ni yn lefydd sydd yn cynnig cerddoriaeth tan hwyr y nos a bod hwnna yn rhywbeth i groesawu yng nghanol y ddinas.

"Mae'r datblygiadau dros y cwpl o fisoedd diwethaf wedi bod yn gatalyst i ni fatha lleoliadau ar y stryd i edrych ar sut mae'r peth yma yn dylanwadu ar ein busnesau ni.

"Ein pryderon ni ydy bod 'na ddim byd ar hyn o bryd yn y statws, efo'r cyngor na 'chwaith efo'r llywodraeth, sydd yn amddiffyn llefydd sydd yn cynnig cerddoriaeth byw tan dri neu bedwar y bore.

"Petai na ddatblygiadau newydd yn dod i'r stryd, fflatiau neu be bynnag efo trigolion yna, a bod nhw yn penderfynu cwyno am y lefelau sain sydd yn tarddu o'n lleoliadau ni, does 'na ddim byd yn y rheolau sydd yn amddiffyn ein gallu ni i weithredu."

'Lle sbeshial'

Mae artistiaid o bob lefel wedi chwarae yng nghlybiau a thafarndai Stryd Womanby ar hyd y blynyddoedd - yn eu plith, Coldplay, The Strokes, Super Furry Animals, Manic Street Preachers a'r Stereophonics.

Mae'r DJ Gareth Potter yn chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, clwb mwyaf adnabyddus y stryd, bob penwythnos.

"Mae o yn le sbeshial", meddai. "Dwi 'di DJio siŵr o fod yn ym mhob un clwb dros y blynydde' neu bob un space.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna fwriad i weddnewid yr ystafelloedd uwchben tafarn y Gatekeeper fel bod pobl yn gallu talu i aros yno

"Odd residency da fi mewn clwb ochr arall y ffordd. Dw i'n Clwb Ifor nawr ond dw i wedi bod mewn clybiau eraill yn chwarae recordia' ac yn chwarae miwsig mewn bands. Mae'r lle yn rhan massive o fy mywyd i.

"Dyna lle di'r hub alternative i Gaerdydd. Dyma lle ti'n mynd os ti isio chwilio am fand newydd, os ti isio mynd i glwb gwerth chweil ac yng nghwmni pobl sydd yn gwybod be' 'di be'".

Ymateb Cyngor Caerdydd

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd "bod y fframwaith polisi cynllunio yn cael ei osod gan y llywodraeth - nid awdurdodau lleol.

"Ry' ni'n deall bod Maer Llundain yn bwriadu cydnabod 'ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol cerddorol' yn rhannau o'r ddinas - ond yng Nghymru dydi'r term ddim yn cael ei adnabod yn y fframwaith polisi cynllunio."

Mae cwmni JD Wetherspoon yn dweud eu bod yn ymwybodol o bryderon yr ymgyrchwyr, ond nad ydyn nhw'n credu y bydd adeiladu ystafelloedd uwchben tafarn y Gatekeeper yn creu problem.