Llafur yn paratoi i golli tir yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y blaid Lafur yn cael hi'n anodd osgoi colledion yn yr etholiadau lleol fis Mai wedi perfformiad cryf bum mlynedd yn ôl, yn ôl Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.
Mae gan y blaid fwyafrif mewn 10 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac yn rhedeg dau gyngor arall fel lleiafrif.
Ond gyda'r polau piniwn yn awgrymu cwymp mewn cefnogaeth i'r blaid ar draws Prydain, mae Llafur Cymru'n paratoi i golli tir y tro hyn.
Wrth i gynhadledd flynyddol y blaid ddechrau yn Llandudno, dywed Carwyn Jones mai "anaml" oedd pobl Cymru yn codi Brexit fel pwnc wrth siarad ag e, gan hoelio'u sylw ar faterion mwy lleol fel trafnidiaeth a swyddi.
'Materion agosach at adref'
Gan sgrifennu ar wefan yr Huffington Post, dywedodd Mr Jones: "Yng nghanol trafodaethau Brexit, ac wrth i oblygiadau ethol Donald Trump barhau, mae'n rhaid i ni atgoffa'n hunain fod hi'n hanfodol i ni gyflawni ar ran pobol yn lleol, ar faterion bara-menyn sy'n llawer agosach at adref.
"Mae etholiadau cyngor 'mond wythnosau i ffwrdd, a thra ein bod ni'n brwydro i sicrhau pob un bleidlais, ry' ni'n gwybod bydd hi'n anodd ail-adrodd ein canlyniadau serennog o 2012."
Mewn newid symbolaidd mae disgwyl i Mr Jones dderbyn teitl ffurfiol arweinydd Llafur Cymru yn ystod y gynhadledd, yn hytrach nag arweinydd grŵp y blaid o ACau ym Mae Caerdydd.
Fe fydd Jeremy Corbyn yn annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn.