Cyhoeddi'r artistiaid fydd yn perfformio yn Tafwyl 2017
- Cyhoeddwyd

Mae gŵyl Gymraeg Tafwyl wedi cyhoeddi'r artistiaid fydd yn perfformio yn ystod y digwyddiad eleni ac yn eu plith mae Geraint Jarman, Alys Williams, Meic Stevens, Candelas, Y Niwl a Bryn Fôn.
Bydd y sin REU, cerddoriaeth rave oedd yn boblogaidd ar ddechrau'r 90au, hefyd yn cael ei atgyfodi yn ystod y penwythnos gan Gareth Potter a Mark Lugg o'r grŵp Tŷ Gwydr.
Mae'r prif ddigwyddiadau eleni yn cael eu cynnal yng Nghaeau Llandaf oherwydd bod rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Gaerdydd fis Mehefin.
Y tro yma bydd trydydd llwyfan, Yurt T ar gyfer perfformwyr ifanc fel Mabli Tudur, Hyll a Mellt a bydd Rêf Teulu Big Fish Little Fish yn cynnig diddanwch i deuluoedd.
Brynhawn Sul, bydd cyfle i fwynhau cerddoriaeth werin wrth i Trac a Chwpwrdd Nansi gydweithio gyda'i gilydd.

Bydd Kizzy Crawford, Yws Gwynedd ac Alys Williams (uwchben) yn rhai o'r artistiaid yn Tafwyl eleni
Er bod y brif ŵyl ar benwythnos 1 a 2 Gorffennaf, bydd gŵyl ffrinj eto eleni sy'n para sawl diwrnod ac yn dechrau ar Fehefin 24.
Mae'r digwyddiadau amrywiol yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws Caerdydd.
Dywedodd y DJ Huw Stephens: "Mae Tafwyl yn dod â cymaint o artistiaid cerddorol anhygoel at ei gilydd i Gaerdydd bob blwyddyn.
"Mae'r rhestr eleni yn dangos pa mor eclectig a diddorol ma' pethe ar hyn o bryd.
"A bydd llwyfan Yurt T yn dod a bandiau newydd i gynulleidfa newydd. Fi'n edrych mlaen yn fawr i Tafwyl 2017!."