Ymchwiliad M4: Cyhuddo'r llywodraeth o 'orliwio' buddiannau

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o sut gallai'r M4 edrych ger Casnewydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyhuddo o "orliwio" y buddiannau o gael rhan newydd o'r M4 ac o "gamarwain" y cyhoedd.

Mae cyn arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Pippa Bartolotti, hefyd wedi codi pryderon am yr effaith ar yr amgylchedd.

Roedd hi'n siarad yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddus yng Nghasnewydd i'r cynigion i adeiladu rhan newydd o'r M4.

Dyma'r diwrnod cyntaf i wrthwynebwyr y cynllun gael cyfle i gyflwyno eu hochr nhw o'r ddadl.

Ond mae rheolwr y prosiect, sydd yn gweithio i'r llywodraeth, wedi gwadu'r cyhuddiadau gan ddweud bod yna dystiolaeth i gefnogi'r wybodaeth.

Mae'r llywodraeth yn hawlio bydd y ffordd yn dod a £1.62bn o fudd uniongyrchol i Gymru.

Dadlau yn erbyn hynny mae Ms Bartolotti gan ddweud bod taflen gan Lywodraeth Cymru yn gyfystyr a "cham wybodaeth".

Dywedodd bod rhai o'r ffeithiau yn y ddogfen ynglŷn â'r budd economaidd, swyddi, a'r effaith amgylcheddol wedi eu "gorliwio", "eu dal yn ôl" neu mewn rhai achosion yn "ffug".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pippa Bartolotti yn dweud bod ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn codi cwestiynau ynglŷn â ffigyrau a ffeithiau Llywodraeth Cymru

Dywedodd hefyd y dylai'r holl gostau a threuliau ynglŷn â'r llwybr du sydd yn cael ei ffafrio gael eu cyfeirio at Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn cael eu craffu.

Yn ôl Ms Bartolotti:

  • Y "senario gorau" yw bod 6,500 o swyddi newydd yn cael eu creu gyda chais rhyddid gwybodaeth yn dangos mai'r "senario isaf" oedd 750 o swyddi

  • Mae ffigyrau ansawdd yr aer yn gamarweiniol gan nad yw'n ystyried tagfeydd cynyddol yng Nghaerdydd

  • Mae honiadau byddai siwrneiau teithwyr yn cael eu lleihau 10 munud yn anghywir ac mai lleihau'r siwrnai rhwng 3.5 a 5 munud fyddai'r llwybr newydd

Ond mae rheolwr y prosiect Matt Jones yn dweud nad yw'r wybodaeth, a roddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymgyrch ymgysylltu, yn gamarweiniol.

Dywedodd bod graffeg gwybodaeth, sydd wedi ei gwestiynu, wedi ei rhoi gyda dogfennau eraill mwy manwl y gallai'r cyhoedd edrych arnynt.

Mae disgwyl i'r ymchwiliad cyhoeddus bara am bum mis.