Rhybudd cwrwglwyr am nifer yr eogiaid mewn afonydd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yr eogiaid yn ein hafonydd yn wynebu argyfwng, os nad ydyn ni'n mynd i'r afael a'r dirywiad yn eu niferoedd.
Dyna'r rhybudd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth i Bysgotwyr Cwrwgl yr afon Teifi ddweud wrth BBC Cymru eu bod nhw am ryddhau pob eog maen nhw'n ei ddal eleni.
Mae Cymdeithas Rhwydwyr Cwrwgl Teifi yn galw ar bawb sy'n defnyddio'r afon i ddilyn eu hesiampl a 'dal a rhyddhau' yn wirfoddol.
'Cam digynsail'
Mae teulu Dan Rogers yn pysgota Cwrwgl ar yr afon Teifi ers 150 o flynyddoedd, mae'r cam yma yn ddigynsail meddai:
"Gyda'r llygredd eleni, a'r cwymp yn stocks y salmon, ni gyd yn teimlo fel bod hi'n amser i ni wneud rhywbeth am biti fe. Mae hwn yn amser momentws iawn i'r cwrwgle - ni moyn bod cyfle i'n blant ni a'i plant nhw fynd i bysgota am eog ar y Teifi.
"Ni'n gwerthu'r pysgod ni'n dala, ac mae hyn yn mynd i hitio bob un yn y poced, ond ma raid i ni wneud rhywbeth. Mae rhaid i rhywun ddechre neud rhywbeth. 'Ni gyd fel pysgotwyr wedi penderfynnu 'na ni ydy'r grwp sy'n mynd i ddechrau neud e.
Yn ôl Mr Rogers, mae'n hanfodol i bawb sy'n defnyddio'r afon i ddilyn eu hesiampl, neu bydd eu haberth yn ofer:
"Mae rhaid i bob un neud hwn nawr, y pysgotwyr gwialen hefyd. Mae eisiau neud rhywbeth am stocks y salmon a dyma'r unig ffordd 'dy ni'n gweld."
Mae tymor pysgota'r cwrwglwyr yn dechrau ar 1 Ebrill tan ddiwedd Awst, ac mae'n orfodol taflu pob eog yn ôl i'r dŵr rhwng Ebrill a mis Mehefin. Mae'r cwrwglwyr yn dweud y bydden nhw'n ymestyn hyn, ac yn rhyddhau'r eogiaid drwy'r tymor.
Fis Mai, mi fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y syniad o wneud polisi 'dal a rhyddhau' yn orfodol.
Dywedodd Huwel Manley o CNC: "Mae nifer y pysgod sy'n dod nôl i'n hafonydd ni, trwy'r monitro 'dy ni'n wneud wedi lleihau yn raddol, ond yn enwedig y llynedd roedd y nifer o bysgod ifanc, a'r dodwy, i lawr.
"Ni mewn sefyllfa fregus nawr lle mae'r rhan fwyaf o'r afonydd samwn ar hyd gorllewin y wlad, mae 'na dipyn yn llai o bysgod yn yr afonydd.
"Ni'n nesau at argyfwng, oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth positif a thrio annog pawb sy'n pysgota i roi samwn yn ôl ar ôl dala nhw."
Mae monitro CNC o'r niferoedd o eogiaid y llynedd yn dangos cwymp mawr mewn afonydd ar draws Cymru.
Ymhlith y rhain, roedd niferoedd yr eog yn Afon Dyfrwyd ar ei lefel isaf mewn chwarter canrif o waith monitro.
Mae'r ffigyrau diweddaraf swyddogol gan CNC hefyd yn dangos cwymp yn y nifer o eogiaid ar y Teifi.
Cafodd 115 o eogiaid eu dal mewn rhwydi ar y Teifi yn 2014 (gyda 300 wedi eu dal mewn gwaleni). Erbyn 2015 roedd hynny wedi mwy na hanneru i 45.
Cwympodd y nifer o eogiaid cafodd eu dal gyda gwialenni o 300 yn 2014 i 210 yn 2015.