Pryder am gyflwr hen Wyrcws Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
WyrcwsFfynhonnell y llun, Google

Mae 'na bryderon am gyflwr un o adeiladau hanesyddol Caerfyrddin, oedd yn ganolbwynt i derfysgoedd Merched Beca.

Y Wyrcws - neu'r Tloty - oedd cartref tlodion y dref am ddegawdau.

Ar 18 Mehefin 1843 fe ymosododd Merched Beca ar yr adeilad mewn cyfnod cythryblus yn yr ardal.

Nawr mae Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin yn ceisio tynnu sylw at gyflwr gwael y Wyrcws a'i ailddatblygu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd terfysgoedd Beca lawer o sylw yn y wasg

Ar hyn o bryd, mae'r Wyrcws mewn dwylo preifat ac wedi bod ar werth ers rhai blynyddoedd, ond dyw hi ddim yn glir pwy yw'r perchennog.

Yn ôl Linda Jones o'r Gymdeithas Ddinesig, mae angen gweithredu'n fuan i arbed yr adeilad.

"Mae angen gwneud mwy o ffys i gael rhywbeth wedi'i wneud yn fuan cyn bod e'n dirywio rhagor", meddai.

"Mae'r ffenestri i gyd wedi torri a phwy a ŵyr beth yw stad yr adeilad tu fewn.

"'Smo neb yn sicr pwy sydd biau'r adeilad, ac mae angen tynnu sylw a gweld be alle' gael ei wneud i rywun ei brynu fe a gwneud gwelliannau, a throi e mewn i amgueddfa fach."

Atyniad 'diddorol'

Fe fyddai ei droi'n amgueddfa yn gallu credu atyniad unigryw, yn ôl yr hanesydd Towyn Jones.

"'Wy ddim yn ymwybodol o wyrcws [fel atyniad] yn unrhyw fan," meddai.

"Allai ddychmygu, petai'r peth yn ei roi at ei gilydd gydag ychydig o ddychymyg... byddai'n bosib gwneud y peth yn ddigon diddorol i ymwelwyr."