Canolfan Aldi yn creu 422 o swyddi yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae archfarchnad Aldi wedi agor canolfan ddosbarthu ranbarthol yn ne Cymru sydd wedi creu mwy na 400 o swyddi, gyda'r bwriad o greu 400 yn rhagor.
Mae canolfan ddosbarthu ranbarthol newydd yr archfarchnad, sydd gwerth £59.5m, yn agor yn swyddogol yn ardal Gwynllŵg yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y datblygiad ym Mharc Busnes Capital eisoes wedi creu 422 o swyddi.
Gobaith Aldi yw creu 400 o swyddi eraill ar draws de Cymru wrth iddyn nhw gynllunio i agor archfarchnadoedd newydd.
Cyfrannodd Llywodraeth Cymru £4.5m at y prosiect.
'Cynnig cyfleoedd gwahanol'
Wrth siarad yn yr agoriad fore Llun, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau Aldi i ehangu ledled y de, gan dargedu Caerdydd, Abertawe a'r gorllewin.
"Mae'r sector manwerthu yn sector lle mae pobl ifanc a phobl brofiadol yn cael eu gwerthfawrogi i'r un graddau, a lle gall pob un ganfod ei le naill ai'n cynnal y busnes neu'n ei ddatblygu," meddai.
"Mae archfarchnadoedd, ynghyd â'u hamryfal strwythurau cymorth gweithredol, yn cynnig cyfleoedd gwahanol."