Rhybudd i rieni am 'drafferth' cael gofal plant am ddim

  • Cyhoeddwyd
Meithrinfa

Mae cymdeithas meithrinfeydd wedi rhybuddio y gallai miloedd o rieni ei chael hi'n anodd cael gofal plant am ddim, oedd yn un o addewidion Llywodraeth Cymru.

Mae'r Gymdeithas Meithrinfeydd Dydd Cenedlaethol (NDNA) yn dweud bod diffyg nawdd, a chynnydd mewn costau, yn golygu y bydd nifer yn ei chael hi'n anodd goroesi.

Roedd cynnig 30 awr o ofal am ddim i blant rhwng tair a phedair oed yn un o brif bolisïau Llafur yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai gwasanaethau preifat yn chwarae rôl ganolog wrth weithredu'r polisi, ac y byddai'r polisi yn cael ei selio ar gynlluniau peilot.

'Colled ariannol'

Mae arolwg NDNA Cymru yn awgrymu fod un ym mhob pum meithrinfa yn poeni am y cynllun, a bron i hanner yn amheus neu'n annhebygol o gynnig y polisi.

Fe wnaeth tua un ym mhob pum meithrinfa gymryd rhan yn yr arolwg, gyda'r mwyafrif yn feithrinfeydd preifat.

Dywedodd prif weithredwr NDNA, Purnima Tanuku: "Mae meithrinfeydd eisiau cynnig eu gwasanaeth i deuluoedd sy'n gymwys i gael y gofal plant am ddim.

"Ond does dim modd iddyn nhw wneud hyn os fydd derbyn plant i gael gofal 'am ddim' am 30 awr yn achosi colled ariannol iddyn nhw, allai olygu eu bod nhw'n gorfod cau fel busnes."

Disgrifiad o’r llun,

Mae diffyg cyllidebau yn golygu bod gofalwyr yn gwneud colledion ariannol, yn ôl Darren Millar

Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi ymateb drwy ddweud bod yr adroddiad yn dangos "amheuon difrifol" ynglŷn â'r cynllun gofal am ddim i blant.

Dywedodd llefarydd y blaid ar blant, Darren Millar AC: "Mae'n gwbl glir bod meithrinfeydd ar hyd y sector yn ei gweld hi'n anodd oherwydd diffyg o ran cyllidebau, a'r ffordd wael mae gweinidogion Llafur wedi ymdrin â'r cyfraddau busnes newydd, gyda nifer o ofalwyr oherwydd hyn yn gwneud colledion ariannol."

Cynllun peilot

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar ôl ei weithredu, cynnig Llafur Cymru i rieni sy'n gweithio i dderbyn gofal plant am ddim fydd y gorau yn y DU.

"Yn wahanol i'r blaid Geidwadol yn Lloegr, sydd wedi neidio i mewn a gweithredu'n frysiog gyda'i chynlluniau gofal plant ac yn cael ei feirniadu'n eang, rydym yn bwrw 'mlaen gyda'r peilot er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gweithio'n effeithiol ar gyfer rhieni o'r diwrnod cyntaf.

"Bydd darparwyr preifat yn chwarae rôl ganolog wrth gyflawni ein cynnig.

"Bydd gan ddarparwyr gofal plant yng Nghymru'r hawl i lefel uwch o gefnogaeth drwy ein cynllun cymorth £100m o ryddhad ardrethi i fusnesau bach."