Cytundeb coed £39m Cyfoeth Naturiol Cymru yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
pren

Mae cwmni gafodd gytundeb gwerth £39m i brynu coed gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi methu â chyrraedd un o brif ofynion y fargen.

Roedd y felin lifio wedi addo adeiladu llinell gynhyrchu newydd i dorri coed - a hynny ar ôl ennill cytundeb doedd yr un cwmni arall wedi gallu cynnig amdano.

Ond dywedodd CNC nad oedd y cwmni wedi gwneud hyn erbyn y terfyn amser ym mis Mawrth.

Ychwanegodd y corff wrth BBC Cymru y byddai'r cytundeb 10 mlynedd, gafodd ei feirniadu gan archwilydd, nawr yn dod i ben.

Cwestiynu

Ym mis Mawrth cafodd y cytundeb gyda'r felin lifio ei gwestiynu gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas wrth iddo edrych ar gyfrifon CNC.

Dywedodd nad oedd y broses wedi bod yn un "dryloyw", gan godi amheuon a oedd y cytundeb wedi torri rheolau'r UE ar gymorth ariannol gan y wladwriaeth.

Un o amodau'r cytundeb ddaeth i rym yn 2014 oedd y byddai'r cwmni wedi adeiladu a gweithredu melin lifio newydd erbyn 31 Mawrth 2016, a phan fethodd hynny â digwydd cafodd y terfyn amser ei ymestyn o flwyddyn.

Dywedodd CNC ei bod mewn trafodaethau â'r cwmni am y camau nesaf, ond ni wnaethon nhw enwi'r cwmni dan sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cytundeb ei gwestiynu gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Archwilio Cymru mai un o'r "prif resymau" i'r cytundeb gael ei arwyddo oedd er mwyn creu rhagor o felinau llifio fyddai'n gallu delio â maint y diwydiant coed.

Ychwanegodd Lee Waters AC, aelod o bwyllgor cyfrifon cyhoeddus y Cynulliad, bod y ffaith nad oedd y felin lifio wedi ei hadeiladu yn "codi cwestiynau am ddoethineb CNC".

Mynnodd llefarydd ar ran CNC mai blaenoriaeth y corff ar y pryd oedd sicrhau modd o gael gwared â choed oedd wedi'u difetha gan fath o ffwng.

"Roedd y buddsoddiadau yn y cytundeb i fod i sicrhau bod digon o felinau llifio ar gael i ddelio â'r coed roedden ni'n disgwyl i gyrraedd y farchnad o'r sector breifat, yn ogystal â choed CNC oedd wedi'u difetha," meddai.

Ychwanegodd petai'r afiechyd wedi ymledu, fel cafodd ei ddarogan, y byddai'r gallu llifio ychwanegol wedi chwarae rhan bwysig.