Galw ar Gymru i fanteisio ar yr economi digidol

  • Cyhoeddwyd
Pupils at Cardiff's Ysgol Gyfun Bro Edern use iPads in lessons
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion yn Ysgol Gyfun Bro Edern Caerdydd yn defnyddio iPad mewn gwers

Mae angen i Gymru gael cynllun mwy hir dymor a mwy dealladwy ar gyfer economi digidol, yn ôl ymgynghorydd i'r llywodraeth.

Dywedodd yr Athro Tom Crick, gwyddonydd cyfrifiadurol o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, fod gwelliannau yn dechrau cael eu gwneud o ran arbenigrwydd yn yr ystafell ddosbarth, ond fod angen i weinidogion ym Mae Caerdydd wneud mwy i wireddu'r potensial ar gyfer creu swyddi.

Ychwanegodd yr Athro Crick, oed yn gyd-gadeirydd arolwg o gwricwlwm Technoleg Cyfathrebu a Gwybodaeth (ICT) yn 2013, fod angen nawr i lunio cynllun mwy eglur i'r gweithle er mwyn creu swyddi o safon uchel sy'n defnyddio data a thechnoleg er mwyn gweddnewid yr economi.

Mae'r term economi digidol yn cyfeirio at y gallu i gystadlu yn y maes digidol ym meysydd fel bancio, adloniant a'r cyfryngau cymdeithasol.

Buddsoddi

Fe wnaeth yr Athro Crick lunio adroddiad yn 2011 ynglŷn â'r modd yr oedd angen addasu'r cwricwlwm addysg er mwyn datblygu sgiliau disgyblion i ddod yn arloeswyr yn y maes.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyd-fynd gydag argymhellion yr adroddiad, a'u bod wedi gweithredu nifer o'r newidiadau oedd eu hangen.

Ychwanegodd bod angen nawr i Lywodraeth Cymru wneud ymroddiad hir dymor ar gyfer sicrhau fod y sgiliau digidol yn cyrraedd y gweithlu.

Mae'n dweud fod gwledydd fel Israel, De Korea ac Estonia eisoes wedi buddsoddi yn y maes.

Disgrifiad o’r llun,

Disgybl yn defnyddio teclyn realiti rhithwir

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cymru yw'r economi ddigidol sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i Lundain yn barod, gyda sector dechnoleg sy'n cyflogi rhyw 40,000 o bobl ac sy'n werth dros £8 biliwn o drosiant i economi Cymru.

"Mae gennym arbenigedd sy'n tyfu yn nhechnoleg allweddol yfory... ac rydym hefyd yn buddsoddi yng nghenedlaethau'r dyfodol drwy gynlluniau cyffrous fel yr Academi Meddalwedd Cenedlaethol sy'n unigryw wrth ddod â busnes i'r ystafell ddosbarth.

"Rydyn ni'n deall na allwn ni sefyll yn llonydd, ac fe fydd sicrhau twf isadeiledd digidol, sgiliau a busnesau yn agwedd bwysig o'r strategaethau sy'n cael eu datblygu.

"Bydd hyn yn galluogi Cymru i elwa o gyflymder newid technolegol nid yn unig yn economaidd, ond yn gymdeithasol hefyd."