M4: Rhybudd amgylcheddwyr am 'niwed sylweddol' i natur

  • Cyhoeddwyd
M4
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y draffodd chwe lôn yn lleihau tagfeydd yn y de ddwyrain

Mae amgylcheddwyr wedi rhybuddio y byddai ffordd liniaru arfaethedig yr M4 yn ardal Casnewydd yn achosi "niwed sylweddol" i fywyd gwyllt yr ardal.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent y gallai rhywogaethau fel dyfrgwn, llygod dŵr, ystlumod, tylluanod, pathewod a madfallod dŵr gael eu heffeithio gan y ffordd £1.1bn.

Ychwanegodd y naturiaethwr Iolo Williams fod y cynlluniau gyfystyr â "ecoladdiad dan nawdd y llywodraeth".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai gwaith yn cael ei wneud i leihau'r effaith, gan gynnwys twneli mamaliaid.

Ond mae disgwyl i'r elusen ddweud wrth ymgynghoriad cyhoeddus yng Nghasnewydd fod y camau hynny "yn bell o fod yn ddigonol".

'Ecoladdiad'

Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu dechrau gwaith ar y ffordd newydd er mwyn lleihau traffig yn yr ardal yn 2018, gyda'r llwybr yn agor yn 2021.

Ar hyn o bryd mae'r llwybr maen nhw'n ei ffafrio yn croesi Gwastadeddau Gwent, ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r ymchwiliad, dywedodd Iolo Williams bod adeiladu'r ffordd gyfystyr â "ecoladdiad dan nawdd y llywodraeth".

Dywedodd ei fod yn "caru" ardal Gwastadeddau Gwent, ac yn "gandryll gyda Llywodraeth Cymru a'r cynllun i roi 16km o draffordd drwy'r 'ardal dan amddiffyniad' yma".

Ffynhonnell y llun, Geograph/Jagger
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ffordd yn pasio drwy ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn Sir Fynwy

Yn ei ddatganiad, dywedodd bod yr ardal yn "brin a chymhleth ac o bwys yn genedlaethol i fywyd gwyllt" gan ei fod yn gartref i nifer o rywogaethau nodedig o anifeiliaid a phlanhigion, fel llygod dŵr a dyfrgwn.

"Mae meddwl am ddinistrio pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol sy'n rhan o'r gem Gymreig yma yn wallgof," meddai.

"Mae effeithiau uniongyrchol cymryd 125 hectar o dir a'r dinistr fydd yn cael ei achosi gan 16km o goncrid ar y cynefinoedd yna yn enfawr - ac yn ddigynsail yng Nghymru."

'Syfrdanu a'n dychryn'

Mae'r cynllun hefyd wedi cythruddo'r Ymddiriedolaeth, sydd yn dweud nad yw'r llywodraeth wedi cymryd "unrhyw gamau" i ddiogelu'r ardaloedd hynny rhag cael eu heffeithio gan y ffordd.

"Rydyn ni wedi ein syfrdanu a'n dychryn y gallai cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y draffordd fod mor niweidiol, ac eto mae'r camau sydd wedi eu cynnig er mwyn lleddfu'r effaith yn bell o fod yn ddigonol," meddai'r elusen.

Ym mis Mawrth, clywodd y gwrandawiad y byddai'r ffordd yn cael "effaith sylweddol" ar yr ecoleg a bywyd gwyllt lleol, ond y byddai camau'n cael eu cymryd i leihau'r effeithiau.

Dywedodd ecolegydd ar ran y llywodraeth Dr Keith Jones wrth y gwrandawiad y byddai'r ffordd yn cael effaith ar gynefinoedd "rhywogaethau sydd yn cael eu diogelu".

Ond fe ddywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i liniaru unrhyw effaith gan y byddai'r draffordd yn croesi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol.