Llawdriniaeth robotig am epilepsi yn 'cynnig gobaith'

  • Cyhoeddwyd
Denise Casey

Mae dynes o ardal Castell-nedd yn dweud fod llawdriniaeth robotig sy'n cael ei hystyried yn un arloesol wedi gweddnewid ei bywyd.

Fe gafodd Denise Casey o Sgiwen wybod bod epilepsi arni pan oedd yn 31 oed, ac mae'n cael hyd at chwe ffit bob dydd ers 20 mlynedd.

Hi yw'r person cyntaf yng Nghymru i gael triniaeth gan robot, gafodd ei adeiladu gan gwmni Renishaw yn Rhondda Cynon Taf.

Fel rhan o'r llawdriniaeth, fe gafodd probiau eu gosod yn ymennydd Mrs Casey gan ddefnyddio braich robotig.

Dywedodd fod llwyddiant cynnar y llawdriniaeth yn "cynnig gobaith" i eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fraich robotig yn gywir iawn medd arbenigwyr

Mae'r fraich robotig yn caniatáu i lawfeddygon drin pobl sydd ag epilepsi, lle nad oedd hynny'n bosib yn y gorffennol.

Mae'n llawer mwy cywir wrth osod probiau yn ymennydd y claf, ac mae'n cwtogi hyd y llawdriniaeth.

Dydy Mrs Casey ddim wedi cael ffit ers y llawdriniaeth ym mis Mawrth, ac mae'n dweud bod ei bywyd "100% yn well".

Yn y gorffennol, doedd hi ddim yn gallu mynd allan ar ei phen ei hun rhag ofn iddi gael pwl, fyddai'n golygu ei bod yn colli synnwyr o ble roedd hi.

"Mae'n anhygoel, fe ddwedon nhw mai robot wnaeth e, ac ry' chi'n meddwl am rywbeth allan o ffilm.

"Dwi'n gwybod mai dim ond ychydig wythnosau'n ôl oedd hyn, ond mae wedi bod yn wych," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mrs Casey bod y llawdriniaeth wedi gwella ei bywyd, ac nad ydy hi wedi cael ffit ers hynny

Dywedodd y llawfeddyg oedd yn gyfrifol am y llawdriniaeth, William Gray o Brifysgol Caerdydd, fod cywirdeb aruthrol gan y fraich robotig.

Dywedodd y byddai'r llawdriniaeth fel arfer yn cymryd dros bedair awr i'w chwblhau, ond mai 55 munud gymrodd hi gyda'r robot.

"Dwi'n meddwl ei fod yn gam mawr ymlaen. Mae'r robot hwn yn rhoi'r offer yn y mannau cywir," meddai.

Mae cwmni Renishaw hefyd yn argraffu rhannau 3D o'r corff, sy'n cael eu defnyddio mewn ysbytai yng Nghymru.