Angen 'gwella argraff' pobl o ffoaduriaid medd pwyllgor

  • Cyhoeddwyd
SyriaFfynhonnell y llun, Reuters

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad am weld y llywodraeth yn gwneud mwy i wella argraffiadau'r cyhoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Ddydd Iau, fe fydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cyhoeddi ei adroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Clywodd y pwyllgor fod un o bob 113 o bobl yn 2016 naill ai'n ffoadur wedi'i ddadleoli yn fewnol neu'n ceisio lloches - nifer sy'n uwch na phoblogaethau'r Deyrnas Unedig, Ffrainc neu'r Eidal.

Mae'r pwyllgor am weld ymgyrch gyhoeddus fel un sydd yn bodoli yn Yr Alban ac sydd yn galw ar bobl i "gael paned gyda ffoadur".

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths, fod camargraff ymysg rhai fod ffoaduraid yn cael "gwell darpariaeth" nag eraill.

Mae'r pwyllgor wedi bod yn edrych ar faint o gymorth sydd ar gael i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan gynnwys plant ar eu pennau'u hunain, a pha mor dda y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran ailsefydlu ffoaduriaid.

Ffoaduriaid

Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau bod delweddau parhaol yn y newyddion "yn gwneud i ni sylweddoli maint trasiedi'r digwyddiadau rhyngwladol presennol", gan ychwanegu bod tystiolaeth i'r pwyllgor "wedi bod yn ddirdynnol ac yn dorcalonnus, ond hefyd yn rhai sy'n ysbrydoli".

Ffynhonnell y llun, Reuters

"Fel y dywedwyd wrthym, un ymadrodd a ddefnyddir yn aml gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yw 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun'.

"Mae'n hanfodol bod y cymorth cywir ar gael iddynt pan fyddan nhw'n cyrraedd Cymru, er mwyn iddyn nhw allu cymryd rhan lawn ym mywyd Cymru a byw bywydau llawn yn eu cymunedau newydd.

"Wrth wraidd ein hadroddiad yw'r gred y gallai Cymru fod y genedl noddfa gyntaf yn y byd, gan atgyweirio peth o'r niwed sydd wedi cael ei wneud i bobl heb fod unrhyw fai arnynt hwy, a'u helpu i fod yn rhywun unwaith eto."

Plant

Clywodd aelodau'r pwyllgor fod plant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches yn un o'r grwpiau plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Mae'r aelodau am i Lywodraeth Cymru sefydlu gwasanaeth Gwarcheidwaeth ar gyfer plant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches.

Ffynhonnell y llun, AFP

Er mwyn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio i gymunedau lleol, mae'r pwyllgor yn credu y dylid ehangu rôl cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol, gwella'r ddarpariaethgwersi Saesneg, gwella'r cyngor sydd ar gael yn ystod y broses a'r gefnogaeth sydd ar gael i geiswyr lloches aflwyddiannus.

Argymhellion

Wrth ymateb i'r argymhellion yn adroddiad y pwyllgor, dywedodd Oxfam Cymru y dylai Llywodraeth Cymru dderbyn pob un o'r awgrymiadau sydd wedi eu cynnig gan y pwyllgor.

Dywedodd pennaeth yr elusen, Kirsty Davies-Warner: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau positif yn barod o ganlyniad i'r ymchwiliad, ond mae nawr yn hanfodol eu bod yn gweithredu'r ystod lawn o bolisiau sy'n cael eu tanlinellu yn yr adroddiad hwn, all newid bywydau."

Bydd canfyddiadau'r pwyllgor yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.