Ffonau clyfar mewn ysgolion: 'Llywodraeth yn osgoi cyfrifoldeb'

Ffonau clyfar mewn ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn dweud nad ydy'r llywodraeth wedi rhoi canllawiau clir i ysgolion

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn "osgoi eu cyfrifoldebau" i roi arweiniad ar ddefnydd ffonau clyfar mewn ysgolion, yn ôl ymgyrchwyr.

Gofynnwyd i'r llywodraeth ym mis Mawrth i roi "canllawiau clir" i ysgolion ar ddefnydd dyfeisiau.

Ond, mae'r grŵp ymgyrchu Smartphone Free Childhood yn dweud nad ydy hynny wedi digwydd.

Ar hyn o bryd, ysgolion a chynghorau sy'n penderfynu - gydag un o bwyllgorau Cyngor Blaenau Gwent yn pleidleisio ddydd Mercher i wahardd ffonau a dyfeisiau yn ystod oriau ysgol.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod gan bob ysgol hawl i gyfyngu ar ddefnydd ffonau.

Madi, Cari ac Ela
Disgrifiad o’r llun,

Mae Madi, Cari ac Ela yn gorfod cadw eu ffonau o dan glo yn ystod y dydd yn Ysgol Dyffryn Conwy

Mae pryderon ynglŷn â'r niwed posib o ddefnyddio ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol yn ifanc wedi arwain at ystod o ddulliau i geisio taclo'r broblem, gan gynnwys ymdrechion i'w gwahardd i bobl ifanc yn Awstralia a rhai siroedd yn Lloegr.

Ers blwyddyn mae Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst yn defnyddio sachau arbennig sy'n cadw ffonau dan glo yn ystod y dydd.

Yn ôl un disgybl, Cari, fe gymerodd amser i arfer â'r newid: "Oedd hi reit rhyfedd i ddechra'. Ond dwi 'di dod i arfer hefo fo rŵan ac mae o'n arferiad i roi'r ffôn yn y pouch."

"Weithiau dwi'n meddwl dwi'm angen ffôn fi", medd Madi, "ond weithiau dwi'n teimlo mor falch o gael o yn ôl."

Ychwanegodd Ela ei bod hi'n sgwrsio llawer mwy, "ond ar ôl bod yn ysgol drwy dydd heb ffôn fi - dwi ar ffôn fi lot mwy pan dwi adre".

Catrin Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na lai o achosion o fwlio" ers cadw ffonau dan glo yn yr ysgol, medd Catrin Rowlands

Yn ôl pennaeth blynyddoedd 10 ac 11 yr ysgol, Catrin Rowlands, mae'r drefn newydd wedi cael ei dderbyn.

"Da' ni wedi gweld, yn dilyn arolwg dysgwyr, bod nhw yn ffafrio'r sachau yma a bod nhw'n gallu canolbwyntio yn well yn y gwersi."

"Wrth reswm, mae'r cynnydd wedyn yn amlwg. Mae 'na lai o achosion o fwlio hefyd," meddai Ms Rowlands.

Fis Mawrth, fe gafodd galwad am wahardd ffonau o ysgolion Cymru ei gwrthod gan Bwyllgor Deisebau'r Senedd.

Ond, mi wnaethon nhw alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno "canllawiau clir a fframwaith gadarn" i ysgolion, er mwyn medru penderfynu ar bolisi.

Cydynnau arbennig sy'n cadw ffonau o dan glo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn defnyddio sachau i gadw ffonau dan glo, ac yna'n eu datgloi ddiwedd y dydd

Yn ôl y grŵp ymgyrchu Smartphone Free Childhood dydy hynny ddim wedi digwydd.

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi colli cyfle," meddai llefarydd y mudiad yng Nghymru, Joshua Barron.

"Mae'n golygu bod rhieni ac addysgwyr yn gorfod gwneud y gwaith caled i gyd.

"Dwi'n teimlo bod Llywodraeth Cymru yn osgoi eu cyfrifoldeb ac mae hynny'n rhwystredig, achos dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael cyfle i fod ar flaen y gad o ran y newid sydd ar droed."

'Ystyried canllawiau pellach'

Mewn ymateb mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod gan bob ysgol yr hawl i osod eu polisïau ei hunain - a all gynnwys cyfyngu ar ddefnydd ffonau mewn gwersi ac egwyl.

"Yn dilyn yr uwchgynhadledd ddiweddar ar ymddygiad mewn ysgolion, fe wnaethom sefydlu fforwm i ystyried pa ganllawiau a chymorth pellach sydd eu hangen ar ysgolion."

"Rydym yn parhau i weithio gydag ysgolion i sicrhau bod ganddyn nhw'r polisïau a'r adnoddau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau cadarn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.