ACau Ceidwadol 'mewn perygl' am groesawu Mark Reckless
- Cyhoeddwyd
Mae ffynhonnell o Geidwadwyr y DU wedi dweud wrth BBC Cymru bod ACau'r blaid wedi "peryglu" eu safleoedd wrth ganiatáu i Mark Reckless ymuno â nhw.
Ddoe fe adawodd Mr Reckless grŵp UKIP yn y Cynulliad i eistedd fel AC Ceidwadol.
Yn ôl rheolau'r grŵp Ceidwadol, dim ond aelodau o'r blaid sy'n cael bod yn ACau.
Fe wnaeth Mark Reckless adael y Ceidwadwyr yn 2014, ar drothwy cynhadledd y blaid.
'Llundain yn ystyried'
Mae ffigyrau Ceidwadol amlwg, gan gynnwys Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, wedi mynnu nad oes cynlluniau i adael i Mr Reckless ail-ymuno â'r blaid.
Er mwyn caniatáu i Mr Reckless ddod yn AC Ceidwadol, mae ACau eraill y blaid wedi pleidleisio i atal eu cyfansoddiad.
Ond dywedodd ffynhonnell o Geidwadwyr y DU wrth BBC Cymru "fod Llundain yn ystyried hwn yn fater difrifol."
"Mae pob aelod o'r grŵp wnaeth bleidleisio i atal y cyfansoddiad wedi rhoi eu safle nhw mewn perygl," meddai.
"Peidiwch â dychmygu am eiliad y bydd y blaid yn Llundain yn hapus â hyn."
Pan ofynnwyd iddo a oedd hynny'n golygu y gallai ACau Ceidwadol gael eu dad-ddewis, ychwanegodd y ffynhonnell ei bod hi'n "rhy gynnar i ddweud".
Dywedodd y ffynhonnell bod miloedd o aelodau cyffredin y Ceidwadwyr dal yn gandryll â Mark Reckless am adael y blaid mewn ffordd mor gyhoeddus yn 2014 ar drothwy cynhadledd yn arwain at etholiad, ac wedi ymgyrchu yn ei erbyn yn yr is-etholiad a ddilynodd.
Dywedodd ail ffynhonnell Ceidwadol wrth BBC Cymru: "Mae'r grŵp Ceidwadwyr Cymreig cyfan yn wynebu cael eu dad-ddewis."