Mwy o blant a phobl ifanc yn cael cymorth tuag at iselder

  • Cyhoeddwyd
Merch iselderFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mwy o blant yn gofyn am gymorth i ddelio ag iselder a phryderon am hunanladdiad, yn ôl ffigyrau.

Roedd cynnydd o dros 25% mewn blwyddyn yn nifer y plant gafodd gyngor am hunanladdiad - o 244 yn 2014-15 i 307 yn 2015-16.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru bod y ffigyrau yn siomedig.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi cymryd camau i helpu pobl ifanc sydd â "thrafferthion emosiynol".

'Cymharol fychan'

Fe gafodd mwy na 11,300 o blant eu cyfeirio at wasanaethau cwnsela sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn 2015-16, yn ôl ystadegau'r llywodraeth.

O'r rheiny, roedd 2,326 yn ddisgyblion ym mlwyddyn 10 yn yr ysgol.

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, bod pwysau gwaith a phryder sydd ynghlwm ag arholiadau TGAU yn gallu bod yn "ormod" i rai.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod yn nifer o blant sy'n cael help ar gyfer pryderon am hunanladdiad yn "gymharol fychan".

Ychwanegodd llefarydd bod y llywodraeth "wedi cyflwyno deddfwriaeth sy'n gorfodi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cwnsela rhesymol ar gyfer plant a phobl ifanc" a'u bod wedi rhoi £4.5m i'r cynghorau i gefnogi'r ddarpariaeth.